Cibi

dawns ryfel Ffiji

Mae'r cibi (ynganer:ˈðimbi, fel "ddimbi" yn y Gymraeg) yn meke (ffurf ddawns draddodiadol Ffijiaidd) o ynys Bau ac yn ddawns ryfel, a berfformir yn gyffredinol cyn neu ar ôl brwydr. Daeth i amlygrwydd yn y cae rygbi ym 1939 pan gafodd ei berfformio gan dîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffiji cyn y gêm. Fe'i gelwir hefyd yn Teivovo.[1]

Tîm rygbi'r undeb Ffiji yn perfformio'r Cibi cyn gêm

Traddodiad y Môr Tawel golygu

Mae'r Cibi yn rhan o draddodiad o ddawnsiau rhyfel sydd wedi eu gwreiddio yn niwylliant gynhenid ynysoedd y Môr Tawel, gyda'r enwocaf i dramorwyr yn ffurf dawns yr haka gan bobl Maori ond bellach hefyd, a fabwysiadir gan holl drigolion Seland Newydd. Fel yrhaka, mae'r cibi wedi dod i amlygrwydd byd-eang oherwydd ei pherfformiad cyn gemau rygbi'r undeb a champau eraill. Ceir dawnsfeydd tebyg gan Samoa (Siva Tau), Tonga (Kailao (a elwir hefyd yn "Sipi Tau") a'r Kailao o ynysoedd Wallis a Futuna.

Gwreiddiau golygu

 
De Affrica v Ffiji CRB 2011

Mae gwreiddiau'r cibi yn dyddio'n ôl i gyfnod rhyfelgar y wlad pan bu ymladd rhwg Ffiji gyda'u cymdogion yn y Môr Tawel a hefyd rhyfela rhyng-lwythol o fewn Ffiji. Ar ôl dychwelyd adref, soniodd y rhyfelwyr am eu buddugoliaeth trwy arddangos baneri - un i bob gelyn a laddwyd. Cyfarfu’r menywod â nhw gan ganu caneuon gydag ystumiau cysylltiedig. Roedd y cibi i fod ysbrydoli'r milwyr mewn brwydr, ond canwyd gyda mwy o egni pan byddai'r rhyfelwyr yn dychwelyd adref yn fuddugoliaethus i ddathlu.

Ym 1939, pan baratôdd Fiji ar gyfer ei daith gyntaf erioed o Seland Newydd, credai eu capten, Ratu Syr George Cakobau, y dylai ei dîm gael dawns ryfel i gyd-fynd â ryfelddawns enwog haka y Crysau Duon. Aeth at Ratu Bola, uwch bennaeth tylwyth rhyfelgar Navusaradave yn Bau,[2] a ddysgodd y Cibi iddynt. Mabwysiadwyd y ddawns fel defod cyn-gêm Ffiji byth ers hynny ac a aeth ymlaen i fod yr unig dîm i aros yn ddiguro ar a taith lawn o amgylch Seland Newydd.

Term Anghywir golygu

Gellir dadlau fod y gair Cibi efallai wedi ei chamddefnyddio gan fod y gair hwnnw yn golygu, "dathliad o fuddugoliaeth gan ryfelwyr", tra bod Bole yn golygu "derbyn yr her". Am y rheswm yma, newidiwyd y Cibi yn 2012 am rhyflegri 'bole' newydd[3] (ynganer mBolay). Mae gan rhyfelgri y Bole lawer mwy o egni o'i chymharu â'r Cibi ac mae'n gweddu'n well i ornest chwaraeon corfforol. Ond, wedi Cwpan Rygbi Cenhedloedd y Môr Tawel yn 2012, dychwelodd y tîm yn ôl at y Cibi.

Cymru a'r Cibi golygu

Cafwyd trafodaeth yn 2015 cyn gêm Cymru yn erbyn Ffiji yn Stadiwm y Mileniwm ar sut ddyliau chwaraewyr Cymru ymateb i her y ddawns ryfel. Nodwyd mae'r bwriad oedd codi ofn ac amheuaeth ym meddwl chwaraewyr Cymru.[4]

Y Cibi golygu

Ffijieg Cymraeg

(Arweinydd)Vaka rau! Cibi!
Ai tei vovo, tei vovo
E ya, e ya, e ya, e ya;
Tei vovo, tei vovo
E ya, e ya, e ya, e ya

Rai tu mai, rai tu mai
Oi au a virviri kemu bai
Rai tu mai, rai tu mai
Oi au a virviri kemu bai

Toa yalewa, toa yalewa
Veico, veico, veico
Au tabu moce koi au
Au moce ga ki domo ni biau

E luvu koto ki ra nomu waqa
O kaya beka au sa luvu sara
Nomu bai e wa mere
Au tokia ga ka tasere

Tuletule buka sa dredre
Tuletule buka sa dredre
Tou vaka tosoya
Vaka malua.
E ya, e ya, e ya, e ya

Byddwch barod! Cibi!
Y pared ryfel, y pared ryfel,
Oh, oh, oh, oh, oh, oh, oh, oh, (yngannu fel cri rhybudd cyn rhyfel)
Y pared rhyfel, y pared rhyfel
Oh, oh, oh, oh, oh, oh, oh, oh

Edrywch yma, Edrychwch yma,
Ymosodaf ar eich amddiffynfeydd,
Edrychwch yma, Edrychwch yma
Ymosodaf ar eich amddiffynfeydd

Ceiliog a iâr,
Ymosodant, ymosodant
Gwaherddir fi rhag ymlacio
Heblawn i swn tonnau'n torri

Gorwedd eich llong wedi suddo islaw,
Honnwch fy mod wedi ei suddo.
Mae'ch pared wedi ei wneud o ddrain
Rwy'n ei bigo ac mae'n datod.

Trof y goeden a'i diwreddio,
Mae'n anodd, ond mae yno.
Mae'r goeden allan o'r ddaear
Yn araf, gallwn ei symud.
Oh, oh, oh, oh, oh!

Gweler Hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.