City of Truro (Locomotif stêm)

Adeiladwyd locomotif stêm rhif 3440 City of Truro ym 1903 yng Ngweithdy Swindon Rheilffordd y Great Western. Roedd 20 locomotif o'r un dosbarth, hanner ohonynt yn drawsnewidiadau o ddosbarth 'Albarta'.[1]

Cynlluniwyd y locomotif gan George Jackson Churchward, Prif Beiriannydd y Great Western. Honnwyd bod y locomotif yr un cyntaf i gyrraedd 100 milltir yr awr, yn ystod siwrnai o Plymouth i Lundain ar 9 Mai 1904 efo trên post. Pwys y trên 6 cerbyd oedd 148 tunnell, heb gynnwys pwys y locomotif (90 tunnell). Honnwyd gan Charles Rous-Marten bod y trên wedi cyrraedd 102.3 milltir yr awr rhwng Twnnel Whitehall a Wellington, Gwlad yr Haf, yn ymyl Taunton. Cyhoeddwyd y manylion (ond heb ddatgelu'r cyflymder) gan Rous-Marten yng Nghylchgrawn Railway Magazine y mis nesaf. Roedd gan y Great Western bryderon am adwaith y cyhoedd i'r fath gyflymder. Cadarnhawyd y cyflymder yn y cylchgrawn yn Ebrill 1908.[1]

Awgrymwyd Charles Collett (Prif Beiriannydd y Great Western rhwng 1922 a 1941) dylai 'City of Truro' yn mynd i'r Amgueddfa Genedlaethol newydd yn Efrog ym 1931, a thynnwyd 'City of Truro' o wasanaeth yn syth.[1]

Atgyweiriwyd y locomotif ym 1957 a defnyddiwyd ar drenau arbennig. Atgyweiriwyd y locomotif eto ym 1984, ac eto yn 2004, yn costio £130,000.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Gwefan swindonweb". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2016-04-08.