Clogwyni Gwyn Dover

Rhan o arfordir Lloegr tua 8 milltir o hyd sy'n wynebu Culfor Dover yw Clogwyni Gwyn Dover (Saesneg: White Cliffs of Dover). Safant i'r dwyrain a'r gorllewin o ddinas Dover yng Nghaint. Maent yn 350 troedfedd (110m) o uchder ar eu pwynt uchaf. Fe'u ffurfiwyd lle mae'r Twyni Gogleddol wedi'u herydu gan y Môr Udd.

Clogwyni Gwyn Dover
Mathclogwyn Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Dover
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawCulfor Dover Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.13472°N 1.35711°E Edit this on Wikidata
Map

Prynwyd darn o arfordir sy’n cwmpasu’r clogwyni gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2016. Mae’r clogwyni’n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig.[1]

Goleudy South Foreland ar ben y Clogwyni Gwyn i'r dwyrain o Dover

Yr ochr arall i Gulfor Dover, ceir clogwyni Cap Blanc-Nez, sydd 134m o uchder ac yn debyg o ran ffurf. Pan fo'r tywydd yn glir, gellir gweld y naill glogwyn o'r llall.

Mae gan y clogwyni olwg drawiadol. Fe'u defnyddir yn aml fel symbol am Ynys Brydain fel cadarnle wrth iddynt edrych dros Gulfor Dover tuag at gyfandir Ewrop; maent yn ymddangos fel rhagfur yn erbyn goresgyniad. Yn y cyfnod cyn teithio awyr y fordaith o Dover byddai'r prif lwybr a ddefnyddid gan deithwyr i'r Cyfandir, a'r llinell wen o glogwyni oedd yr olygfa olaf o'r hyn a gafodd teithwyr o Loegr, neu'r olygfa gyntaf a gawsant pan oeddynt yn dychwelyd.

The Last of England ("Yr Olwg Olaf o Loegr", 1852/1855), paentiad gan Ford Madox Brown (1821–93). Mae pâr ifanc a’u plentyn yn ffarwelio â’u hen fywyd yn Lloegr wrth iddynt gychwyn ar y fordaith ansicr i Awstralia. Mae Clogwyni Gwyn Dover i'w gweld yn y cefndir.

Cyfeiriadau golygu

  1. "White cliffs of Dover to be bought by National Trust". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2016.