Coedwig Hafren

coedwig ar lethau mynyddoedd Pumlumon a tharddiad yr afon Hafren

Saif Coedwig Hafren i'r gogledd-orllewin o Lanidloes, tref farchnad hynafol yng Nghanolbarth Cymru. Er 2020 bu'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Ceir coedwig arall yng ngogledd sir Powys sy'n rhan o'r rhwydwaith sef, Coedwig Dyfnant ymhellach i'r dwyrain.

Coedwig Hafren
Enghraifft o'r canlynolcoedwig Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Coedwig Hafren

Trosolwg golygu

Mae'r goedwig yn gorchuddio tua 40 square kilometre (15 mi sgw), ac mae'n cynnwys coed pinwydd a sbriws yn bennaf. Mae'n cymryd ei enw o Afon Hafren sy'n codi mewn mawnog ddofn tua 800 metre (0.5 mi) y tu allan i ffin orllewinol y goedwig, yn uchel ar lethrau Pumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru. Mae'n goedwig bwysig o ran naturolaeth a hefyd gweithgaredd hamdden.

Hanes golygu

Mae'r goedwig, a blannwyd ym 1937, yn newid yn barhaus gyda thorri a phlannu. Mae'r goedwig hefyd yn gartref i fwyngloddiau copr a phlwm o'r Oes Efydd, [1] yn fwyaf nodedig "Nant yr Eira" ac o bosibl "Nant yr Rickett".

Roedd creu'r goedwig ym 1937 yn golygu prynu deuddeg fferm ddefaid ucheldirol, gan gynnwys "Rhyd y Benwch" sydd bellach yn lleoliad maes parcio a man picnic. [2]

Er na adawyd y ffermydd yn adfail, ni allent ddarparu digon o lety i weithwyr coedwig yn yr ardal brin ei phoblogaeth hon. Ar y dechrau, gyda maint bach cychwynnol y goedwig, roedd digon o weithwyr i'w cael yn lleol. Yn ddiweddarach, cludwyd gweithwyr o Lanidloes. Nid oedd hyn yn gynaliadwy, ac yn 1948, penderfynodd y Comisiwn Coedwigaeth adeiladu pentref ger Penfforddlas i gartrefu gweithwyr coedwigaeth. Cyflogasant bensaer o fri, T. Alwyn Lloyd, Caerdydd, i lunio cynlluniau ar gyfer pentref a fyddai yn y pen draw yn cynnwys pedwar ugain o dai, siop bentref, ysgol a neuadd. Fel datblygiad cyntaf, adeiladwyd ugain o dai ar y safle, gydag wyth arall ychydig filltiroedd i ffwrdd: roedd y rhain yn darparu llety i hanner y gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu yn 1949, gyda'r tai cyntaf yn cael eu meddiannu yn 1951. Darparwyd y cyflenwad dŵr ar gyfer y pentref, a adwaenir fel Llwyn-y-gog (neu Llwynygog), trwy argaenu nant gyfagos. [3] [4]

 
Tarddiad yr Afon Hafren, ger Coedwig Hafren

Defnydd presennol golygu

 
Boncyffion coed wedi eu torri i'w gwerthu - peth o ddiwydiant y Goedwig

Er bod y goedwig yn dal i gynhyrchu pren ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, mae hefyd wedi datblygu fel cynefin bywyd gwyllt ac fel atyniad i dwristiaid . Mae’r barcud coch i’w weld yn yr ardal, ynghyd â llawer o adar, planhigion ac anifeiliaid eraill. Mae yna nifer o lwybrau troed, a llawer o lwybrau ceffyl sy'n boblogaidd ar gyfer beicio mynydd a marchogaeth. Ymhlith y teithiau cyhoeddedig mae "The Source of The Severn", "Severn Breaks its Neck" a "The Blaenhafren Falls". [5]

Mae Taith Gerdded Dyffryn Gwy yn gorffen yn Rhyd y Benwch yn y goedwig. [6] Defnyddia Clwb Cyfeiriadau y Canolbarth (Mid Wales Orienteering Club) y goedwig ar gyfer cystadlaethau cyfeiriadu.[7]

Mae chwarel yn y goedwig yn cael ei defnyddio "astudiaethau ffrwydrad" gan Grŵp Ffiseg Hylosgi Prifysgol Aberystwyth . Arferid defnyddio'r chwarel hon gan British Aerospace .

Chwaraeon modur golygu

Mae'r goedwig yn lleoliad poblogaidd ar gyfer llawer o bencampwriaethau motocrós a 4x4 a digwyddiadau rali.

Defnyddir y goedwig yn rheolaidd fel llwyfan ar Rali Cymru Prydain Fawr . Ym mis Ionawr 2013 defnyddiodd BBC Top Gear Bentley Continental a yrrwyd gan Kris Meeke i ddarlledu'r llwyfan. [8]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Archaeology in the Forest: Mines and quarries of North Wales". The Clwyd-Powys Archaeological Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-02. Cyrchwyd 2008-02-29.
  2. "Rhyd y benwch Picnic Site". The Forestry Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-23. Cyrchwyd 2008-02-29.
  3. "Historic Landscape Characterisation, The Making of the Clywedog Valley Landscape". The Clwyd-Powys Archaeological Trust. Cyrchwyd 2014-11-07.
  4. Spence, Barbara (March 2013). "The Forestry Commission in Wales 1919 - 2013" (PDF). Forestry Commission Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-07-24. Cyrchwyd 2014-11-07.
  5. "Welcome to Hafren Forest and the source of the River Severn" (PDF). The Forestry Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-11-07. Cyrchwyd 2014-11-07.
  6. "The Walk - factfile - The Wye Valley Walk". www.wyevalleywalk.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-08. Cyrchwyd 2015-09-07.
  7. "POW Level D Event at Coedwig Hafren, Llanidloes 11th December 2011". Gwefan Mid Wales Orienteering Club. 2011. Cyrchwyd 2 Mai 2023.
  8. Evans, David (30 January 2013). "Why the WRC can't forget its past". Autosport. http://plus.autosport.com/premium/feature/5111/why-the-wrc-cant-forget-its-past/.

Dolenni allanol golygu