ColegauCymru

Corff nid er elw yn gydlynu a hyrwyddo Colegau Addysg Bellach Cymru

Mae ColegauCymru yn elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru. Mae'n gorff dielw a arweinir gan aelodau a sefydlwyd ym 1995 gan golegau Addysg Bellach (AB), i gynrychioli a hyrwyddo eu diddordebau ac addysg ôl-16. Mae pencadlys ColegauCymru yn Nhongwynlais ger Caerdydd.

ColegauCymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1995 Edit this on Wikidata
PencadlysTongwynlais Edit this on Wikidata

Mae hefyd yn ymgynnull Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.

Prif Weithredwr y corff yn 2023 oedd David Hagendyk a'r Cadeirydd oedd Guy Lacey o Goleg Gwent.[1]

Cennad golygu

Dywed cennad y corff eu bod yn credu fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.[2]

Mae'n bwriadu angos gwerth addysg bellach i'r holl ddysgwyr, y gymdeithas a'r economi.

Enw golygu

Er bod yr enw'n uniaith Gymraeg, mae'r corff yn gweithredu'n ddwyieithog ac yn darparu gwasanaeth ddwyieithog. Ysgrifennir enw'r corff fel un gair, 'ColegauCymru', ac nid fel 'Colegau Cymru'.

Aelodau golygu

Mae ColegauCymru'n cynnwys yr aelodau isod:[3]

Gwasanaethau Fforwm golygu

Mae Fforwm Services Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat ac yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Colegau Cymru. Mae'n blatfform ar gyfer cynnal gweithgareddau masnachol ac i ennill incwm su'n caniatau inni hwyluso digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau yn benodol i'r sector.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Staff". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  2. "Pwy Ydym Ni". gwefan Colegau Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  3. "Aelodau". Gwefan ColegauCymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  4. "Pwy Ydym Ni". gwefan Colegau Cymru. Cyrchwyd 22 Mai 2023.
  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Dolenni allanol golygu