Actor a rheolwr theatr o Sais a beirdd a dramodydd yn yr iaith Saesneg oedd Colley Cibber (6 Tachwedd 167111 Rhagfyr 1757) sydd yn nodedig fel un o feistri'r gomedi sentimental. Gwasanaethodd yn swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 3 Rhagfyr 1730 hyd at ei farwolaeth.

Colley Cibber
Portread o Colley Cibber – yn chwarae'r cymeriad Lord Foppington yn The Relapse gan John Vanbrugh – gan Giuseppe Grisoni (1696).
Ganwyd6 Tachwedd 1671 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1757 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The King's School, Grantham Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, bardd, ysgrifennwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadCaius Gabriel Cibber Edit this on Wikidata
PriodCatherine Cibber Edit this on Wikidata
PlantTheophilus Cibber, Catharine Cibber, Charlotte Charke Edit this on Wikidata

Ganed yn Llundain yn fab i'r cerflunydd Caius Gabriel Cibber, a derbyniodd addysg dda. Ymunodd â'r Theatr Frenhinol yn Drury Lane ym 1690, fel aelod o gwmni actio Thomas Betterton, a datblygodd ei fedr fel actor digrif wrth chwarae'r coegyn mewn sawl un o gomedïau'r Adferiad. Priododd ym 1693, ac ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, Love's Last Shift; or, The Fool in Fashion (1696), i ennill digon o arian i gynnal ei deulu. Dyma'r enghraifft gyntaf o gomedi sentimental, genre a ddaeth i ddominyddu'r theatr Seisnig am ganrif gyfan. Daeth Cibber i'r amlwg fel actor a dramodydd o ganlyniad i'w bortread o'r prif gymeriad, Sir Novelty Fashion, yn Love's Last Shift. Ysgrifennai dramodydd arall, Syr John Vanbrugh, ddilyniant i Love's Last Shift o'r enw The Relapse, a phortreadodd Cibber y brif ran, Lord Foppington, yn y gomedi honno hefyd.

Ym 1700 cynhyrchodd Cibber ei addasiad o'r ddrama hanesyddol Richard III gan William Shakespeare. Perfformiwyd yr addasiad hwn am ddwy ganrif bron nes i'r actor Henry Irving adfer y testun gwreiddiol ym 1871.[1] Ysgrifennodd ryw 30 o ddramâu eraill, gan gynnwys She Wou'd and She Wou'd Not (1702), The Careless Husband (1704), a The Nonjuror (1717), yr un olaf yn seiliedig ar Tartuffe gan Molière. O 1710 i 1740, Cibber oedd un o reolwyr y Theatr Frenhinol, ac mae ei hunangofiant An Apology for the Life of Mr. Colley Cibber (1740) yn ffynhonnell bwysig o fyd y theatr Lundeinig yn ystod hanner cyntaf y 18g.

O ganlyniad i'w ysgrifeniadau o blaid achos y Chwigiaid, penodwyd Cibber yn Fardd Llawryfog y Deyrnas Unedig ym 1730, yn sgil marwolaeth Laurence Eusden. Er ei lwyddiannau yn y theatr, ffigur hynod o gynhennus oedd Cibber a bu nifer o'i gyfoedion yn ei ystyried yn ddyn haerllug ac yn ddringwr cymdeithasol digywilydd. Bu'n gyff gwawd i sawl beirniad, a fe'i anfarwolwyd yn ffug-arwr y gerdd The Dunciad (1743) gan Alexander Pope. Ymosodai Cibber ar Pope mewn tri llythyr cyhoeddus yn ystod "rhyfel y pamffledi".

Bu perfformiad olaf Cibber ar y llwyfan ar 15 Chwefror 1745, yn addasiad ei hun o'r ddrama Shakespeareaidd King John. Bu farw deuddeng mlynedd wedi iddo ymddeol, yn Llundain, yn 86 oed.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Colley Cibber. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2020.
Rhagflaenydd:
Laurence Eusden
Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig
3 Rhagfyr 1730 – 12 Rhagfyr 1757
Olynydd:
William Whitehead