Corfflu'r Ysgol Fân-Arfau

Corfflu yn y Fyddin Brydeinig yw Corfflu'r Ysgol Fân-Arfau (Saesneg: Small Arms School Corps) sy'n yn gyfrifol am hyfforddi hyfforddwyr mân-arfau, paratoi cyrsiau, dewis rheolwyr meysydd tanio, profi drylliau newydd, a chynghori swyddogion y staff ar sgiliau arfau. Mae 1 ym mhob 5 o aelodau'r Corfflu yn swyddogion, a ddyrchafir o fewn yr uned.[1]

Corfflu'r Ysgol Fân-Arfau
Enghraifft o'r canlynoluned filwrol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1853 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.army.mod.uk/who-we-are/corps-regiments-and-units/small-arms-school-corps/ Edit this on Wikidata
Bathodyn cap y Corfflu

Hanes golygu

Crewyd yr Ysgol Saethyddiaeth (Saesneg: School of Musketry) ym 1854, a'i ailenwyd yn yr Ysgol Fân-Arfau ym 1919. Daeth y ddwy ysgol yn Gorfflu'r Ysgolion Mân-Arfau a Gynnau Peiriant ym 1923. Cyfunwyd y ddwy ysgol ym 1929 gan greu Corfflu'r Ysgol Fân-Arfau.[2] Symudodd pencadlys y Corfflu o Hythe, Caint, i Ysgol y Troedfilwyr yn Warminster, Wiltshire, ym 1969.[1]

Gwisg golygu

Glas gyda pheipio a ffesin glas Caergrawnt yw gwisg y Corfflu.[2] Mae'r bathodyn cap yn dangos dwy reiffl Lee-Enfield wedi eu croesi dros wn peiriant Vickers, gyda'r goron uwchben, i gyd o fewn torch lawryf wedi ei addurno gyda sgrôl â'r teitl.[1]

Cerddoriaeth golygu

"March of the Bowmen" yw ymdeithgan y Corfflu.[1]

Traddodiadau golygu

Dethlir Diwrnod y Corfflu ar 19 Medi pob blwyddyn i nodi agor yr Ysgol Saethyddiaeth yn Hythe, Caint, ar y dyddiad hwn ym 1854.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 169.
  2. 2.0 2.1 Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988), t. 286.

Dolen allanol golygu