Cors Goch, Ynys Môn

Gwarchodfa Natur Genedlaethol 167 erw yn ne-ddwyrain Ynys Môn yn perthyn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw Cors Goch. Saif ychydig i'r gogledd o bentref Llanbedrgoch ac i'r de-orllewin o dref Benllech (Cyfeirnof OS: SH 498 813).

Cors Goch
MathGwarchodfa Natur Genedlaethol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3083°N 4.2528°W Edit this on Wikidata
Map
Cors Goch: mae'r tir garw tu ôl i'r cae yn rhan o'r Warchodfa.
Cornel o Gors Goch.

Prif nodwedd Cors Goch yw'r gors galchaidd, gyda rhostir asidig ar y tir uwch o'i amgylch. Mae hefyd ardaloedd a laswelltir. Oherwydd yr amrywiaeth yma o gynefinoedd, ceir amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid.

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru o ganlyniad i'r angen i warchod Cors Goch. Prynwyd tiroedd tair fferm yn yr ardal yma yn 1964, a ffurfiwyd yr ymddiriedolaeth. Yn dilyn apêl yn 2008, cyhoeddwyd fod yr ymddiriedolaeth wedi codi digon o arian i ehangu'r warchodfa yn sylweddol.

Dolen allanol golygu