Mae Cranford yn un o nofelau mwyaf adnabyddus yr awdur Saesneg o'r 19eg ganrif, Elizabeth Gaskell. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf, yn afreolaidd, mewn wyth rhan, rhwng Rhagfyr 1851 a Mai 1853, yn y cylchgrawn Household Words, a olygwyd gan Charles Dickens. Yna fe'i cyhoeddwyd, gyda mân adolygiad, ar ffurf llyfr ym 1853.[1]

Cranford
Miss Matty a Peter
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurElizabeth Gaskell
CyhoeddwrHousehold Words Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1851 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1851 Edit this on Wikidata
GenreFfuglen, Nofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Yn y blynyddoedd yn dilyn marwolaeth Elizabeth Gaskell daeth y nofel yn hynod boblogaidd.[2]

Cefndir golygu

Mae tref wledig fychan Cranford yn cyfateb i Knutsford, Sir Gaer, lle'r oedd Elizabeth Gaskell wedi treulio llawer o'i phlentyndod a lle dychwelodd ar ôl iddi briodi. Fodd bynnag daw adroddwr y stori o ddinas ddiwydiannol gyfagos Drumble, sy'n cyfateb i Fanceinion, lle'r oedd yr awdur yn byw wrth ysgrifennu'r nofel.[3]

Crynodeb golygu

Nid oes gan y gwaith unrhyw blot go iawn. Mae'n gasgliad o frasluniau dychanol, sy'n portreadu'r newid mewn arferion a gwerthoedd trefi bach yn Lloegr Oes Victoria.[4] Mae Gaskell yn edrych yn ôl at atgofion o’i phlentyndod yn nhref fechan Knutsford. Mae Cranford yn bortread serchog yr awdur am bobl ac arferion a oedd eisoes yn ddechrau troi'n anacroniaethau.[5]

Mae hanesion y llyfr yn cael eu hadrodd gan Mary Smith, merch ifanc sy'n ymweld â'r dref yn aml. Pan fo Mary i ffwrdd o'r dref mae'n parhau i fod yn ymwybodol o ddigwyddiadau yno trwy ohebiaeth â rhai o'r cymeriadau eraill.

Cymeriadau golygu

  • Mary Smith - Yr adroddwr. Dim ond gwybodaeth gyfyngedig a roddir inni amdani. Mae Mary yn fenyw ifanc a arferai fyw yn Cranford ond sydd bellach yn byw gyda'i thad dyn busnes yn ninas gyfagos Drumble. Mae hi'n aros yn aml gyda Miss Matty.
  • Miss Matty Jenkyns - Dynes ddi-briod oedrannus hawddgar, addfwyn, ond braidd yn swil.
  • Miss Deborah Jenkyns - Chwaer hŷn Miss Matty. Dynes drahaus ac awdurdodus, sy'n marw yn gynnar yn y nofel.
  • Miss Pole - Honnir mai hi yw'r mwyaf "rhesymol" a "goleuedig" o holl ferched Cranford.
  • Yr Anrhydeddus Mrs Jamieson - Gwraig weddw â chysylltiadau pendefigaidd a pherchennog Carlo, ei chi annwyl. Ar y raddfa gymdeithasol hi yw'r person pwysicaf yn Cranford.
  • Mrs Forrester - Gwraig weddw arall.
  • Betty Barker - Cyn-felinydd, sy'n berchen ar fuwch y mae hi'n ei charu fel merch.
  • Peter Jenkyns - Brawd Matty Jenkyns, sy'n diflannu'n gynnar yn y nofel, ar ôl iddo gael ei guro gan ei dad. Yn dilyn hynny, mae Mary Smith yn darganfod ei fod yn dal yn fyw ac yn ysgrifennu ato. Ar ddiwedd y nofel mae Peter yn dychwelyd o India ac yn cael ei aduno gyda'i chwaer.
  • Thomas Holbrook - Ffermwr bywiog a chwilfrydig ei feddwl, a oedd yn gyn-edmygydd Miss Matty. Mae'n marw flwyddyn ar ôl taith i Baris.
  • Capten Brown - Capten yn y fyddin, dyn tlawd sy'n dod i fyw i Cranford gyda'i ddwy ferch.
  • Miss Brown - Merch hynaf y Capten Brown.
  • Miss Jessie Brown - Merch iau Capten Brown. Ar ôl marwolaethau ei thad a'i chwaer, mae'n priodi ac yn gadael Cranford.
  • Major Gordon - Ffrind i'r Capten Brown sydd wedi bod mewn cariad â Jessie Brown ers blynyddoedd.
  • Arglwyddes Glenmire - Chwaer yng nghyfraith wael, weddw Mrs Jamieson. Mae hi'n priodi Dr Hoggins er mawr siom i ferched Cranford.
  • Dr Hoggins - Llawfeddyg Cranford. Dyn garw ond cyfeillgar ac ystyrlon. Mae merched Cranford yn ystyried ei fod ef a'i gyfenw'n ddi-chwaeth.
  • Martha - morwyn Miss Matty, sydd yn meddwl y byd o'i meistres. Yn ddiweddarach, ar ôl i Matty golli'r rhan fwyaf o'i harian, Martha yw ei landlord a'i chydymaith. Mae Matty yn byw gyda hi ar delerau cyfartal.
  • Jem Hearn - Y dyn ifanc mae Martha yn priodi.
  • Mr Mulliner - Bwtler Mrs Jamieson
  • Signor Brunoni - consuriwr teithiol.
  • Signora Brunoni - Gwraig y consuriwr teithiol, a deithiodd ar droed ar draws India i achub bywyd ei merch fach.

Addasiadau golygu

Mae'r nofel wedi cael ei haddasu deirgwaith ar gyfer y teledu gan y BBC. Darlledwyd y fersiwn gyntaf ym 1951, yr ail ym 1972, gyda Gabrielle Hamilton fel Miss Matty, a'r drydedd fersiwn yn 2007. Ychwanegodd fersiwn 2007 ddeunydd o ysgrifau eraill gan Gaskell: My Lady Ludlow, Mr Harrison's Confessions a The Last Generation in England. Cymerodd Judi Dench ac Eileen Atkins y rolau blaenllaw fel Miss Matty a Miss Deborah Jenkyns, gydag Imelda Staunton yn cael ei gastio fel cariwr clecs y dref, Miss Pole, a Michael Gambon fel cyn edmygydd Miss Matty, Mr Holbrook. Darlledwyd dilyniant y BBC, Return to Cranford, yn 2009.

Cyfeiriadau golygu

  1. Peter Keating, "Cyflwyniad" i argraffiad Penguin o Cranford (1976). (Llundain, 1986).
  2. Peter Keating, "Introduction", t.9.
  3. Michell, Sheila (1985). "Cyflwyniad" i The Manchester Marriage. UK: Alan Sutton. t. iv-viii.
  4. Denisoff, Dennis (2004). The Broadview Anthology of Victorian Short Stories. Canada: Broadview Press. t. 123.
  5. Wright, Edgar. "Elizabeth Cleghorn Gaskell". Dictionary of Literary Biography.

Dolenni allanol golygu