Pos dyfalu geiriau yw croesair. Y ffurf glasurol yw grid o sgwariau du a gwyn, a'r gamp yw llenwi'r rhai gwyn â llythrennau sy’n ffurfio geiriau ar draws ac ar i lawr, gan ddefnyddio cliwiau a roddir.[1] Ceir nifer o amrywiolion, er enghraifft pob sgwâr yn wyn a dim ond llinell drwchus i nodi diwedd y geiriau.

Grid glasurol y croesair Prydeinig.

Mae'r croesair cryptig yn defnyddio diffiniadau astrus, mwyseiriau, ac anagramau yn ei gliwiau.

Hanes golygu

Ymddangosodd y croeseiriau cynharaf yn Lloegr yn ystod y 19eg ganrif, yn seiliedig ar y sgwâr geiriau. Cyhoeddwyd y croesair modern cyntaf ar 21 Rhagfyr 1913 yn "Fun", atodiad Dydd Sul y papur newydd New York World. O fewn degawd, cyhoeddwyd croesair gan y mwyafrif o bapurau mawr yr Unol Daleithiau.[2] Y Sunday Express oedd y papur Prydeinig cyntaf i argraffu croesair, a hynny ym 1925.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  croesair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
  2. (Saesneg) crossword puzzle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.
  3. (Saesneg) David McKie (20 Rhagfyr 2013). 100 years of crosswords: the first appeared in New York on 21.12.1913. The Guardian. Adalwyd ar 18 Mehefin 2015.