Curiad Cariad (albwm)

Albwm gan y grŵp Cymraeg Llwybr Llaethog yw Curiad Cariad. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2011 ar y label Neud nid Deud.

Curiad Cariad
Clawr Curiad Cariad
Albwm stiwdio gan Llwybr Llaethog
Rhyddhawyd Rhagfyr 2011
Label Neud nid Deud

Ym 1986, rhyddhaodd Llwybr Llaethog eu cynnyrch cyntaf ar ffurf EP 4 trac o’r enw Dull Di-drais. 26 mlynedd yn ddiweddarach mae John Griffiths a Kevs Ford dal wrthi a daeth albwm rhif 13 y ddeuawd electro-dub arloesol i’r golwg yn Rhagfyr 2011.

Dewiswyd Curiad Cariad yn un o ddeg albwm gorau 2011 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Wedi gwrando ar Curiad Cariad, mae John a Kevs yn parhau i greu synau sydd mor ffres ag erioed.

—Ciron Gruffydd, Y Selar

Cyfeiriadau golygu