Cwmni Dawns Werin Caerdydd

Mae Cwmni Dawns Werin Caerdydd yn grŵp dawnsio gwerin Cymreig amatur a lleolid yng Nghaerdydd.

Cwmni Dawns Werin Caerdydd
Enghraifft o'r canlynolgrŵp dawnsio gwerin Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Sefydlwyd Dawns Werin Caerdydd yn 1968.[1] Arferent ymarfer yn Hen Ganolfan yr Urdd Caerdydd, a oedd ar Heol Conwy yn ardal Pontcanna o'r brifddinas [2] ac arferwyd ei galw'n Cwmni Dawns Werin Aelwyd Caerdydd. Ymysg y sylfaenwyr oedd Christine a Rhodri Jones.[3]

Sefydlwyd cwmni Dawnswyr Nantgarw gan aelodau cwmni Dawns Caerdydd oedd yn gweithi yn ardal Pontypridd.[2]

Mae'r cwmni yn aelodau o Gymdeithas Ddawns Werin Cymru.[4]

Gŵyl Ifan golygu

Yn 1977 sefydlodd y cwmni ddathliadau Gŵyl Ifan a gynhelir yn flynyddol ar 24 Mehefin (diwrnod yr Ŵyl) neu ddyddiad cyfagos cyfleus. Bydd y Cwmni, ynghŷd â grwpiau dawns a gwerin eraill o Gymru, yn gorymdeithio drwy ganol Caerdydd er mwyn codi'r 'Pawl Haf' o flaen Neuadd Dinas Caerdydd.[5]

Perfformio golygu

Mae'r cwmni'n cynnal gwahanol fathau o berfformiadau ac yn perfformio am wahanol resymau. Byddant yn dawnsio a chynnal twmpath dawns gyda galwr a cherddoriaeth fyw a hefyd yn cymryd rhan mewn perfformiadau ail-hanesu (re-enactments) o draddodiadau gwerin Cymru.

Maent wedi teithio ar draws Cymru a thu hwnt yn dawnsio gan gynnwys i; Iwerddon, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Llydaw, Gwlad Belg a Sbaen a hyd yn oed wedi teithio cyn belled ar Unol Daleithiau, Siapan ac Wcráin.

Anrhydeddau a Gwobrau golygu

Cydnabyddwyd cyfraniad y Cwmni i ddiwylliant gwerin Ewrop yn 1983 pan ddyfarnwyd Gwobr Ewropa am gelfyddyd werin - yr unig grŵp o Gymru i dderbyn yr anrhydedd hon.

Mae'r Cwmni wedi ennill prif wobr dawnsio gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith, y tro diwethaf yn 2012.

Anrhydeddwyd dau o aelodau selocaf y Cwmn, Gill a Dai Evans fel Llywyddion y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 oherwydd eu gwasanaeth i ddawnsio gwerin Gymreig ac i fywyd Cymraeg Caerdydd.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-17. Cyrchwyd 2019-01-17.
  2. 2.0 2.1 http://dinesydd.cymru/index.php/2018/07/31/dawnswyr-nantgarw/[dolen marw]
  3. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44813953
  4. https://dawnsio.cymru/timoedd/
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-17. Cyrchwyd 2019-01-17.