Math o gerdd ar fesurau digynghanedd yw cwndid (lluosog: 'cwndidau'). Daw i'r amlwg yn nhraddodiad llenyddol Gwent a Morgannwg yn ail hanner y 15g a bu'n boblogaidd hyd y 18g. Cerddi moesol neu grefyddol ydynt fel rheol ond ceir enghreifftiau o gwndidau mawl hefyd. Credir fod llawer o'r cwndidau cynnar yn enghreifftiau o waith y Glêr.[1] Mae'r gair 'cwndid' ei hun yn fenthyciad canoloesol o'r gair Saesneg condut, sy'n tarddu o'r gair Lladin Canol conductus, sef "math o motet (cerdd fer delynegol) a genid wrth i'r offeiriad fynd at yr allor".[2]

Y mesurau a welir yn amlaf yn y cwndidau yw'r cywydd deuair fyrion a'r awdl-gywydd, ond heb gynghanedd.[3] Carolau ar gyfer y gwyliau eglwysig yw nifer o'r cwndidau sydd ar glawr heddiw. Dywedir am y cwndidwr Siôn Tomas o blwyf Lidnerth:

El blwyf fydde gynt bob gwylie
Yn cael newydd gerdd lawenydd,
A'r gwylie hyn sy drwm gantyn
Na bai'u hathro 'n eu cynffwrdo.
Fe wnâ'i 'n ddifeth gerdd o bregeth
Yn sampol yn ni bob blwyddyn.[4]

Ceir ambell bennill sy'n profi fod rhai o'r cwndidwyr yn arfer canu cerddi serch hefyd, ac mae'n bosibl fod tystiolaeth y llawysgrifau yn gamarweinol mewn hyn o beth gan nad oedd cerddi o'r fath yn teilyngu lle mewn llawysgrif.[5]

Un o ganolfannau mawr y canu cwndid oedd Tir Iarll, Morgannwg. Mae'r cwndidwyr yn cynnwys Llywelyn Siôn, Edward Dafydd o Fargam, Edward Evan o Ben-y-fai a Lewis Hopkin.[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • L.J.H. James a T.C. Evans (gol.), Hen Gwndidau, carolau a chywyddau (1910). Detholiad o destunau golygiedig.
  • G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), tud. 36.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol I, tud. 643.
  3. Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), tud. 36.
  4. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg. tud. 131.
  5. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, tud. 137.
  6. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.