Cwpan Pêl-droed Merched Cymru

cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer timau merched Cymru
(Ailgyfeiriad o Cwpan CBD Merched Cymru)

Cwpan Her Merched CBD Cymru, sy'n fwy adnabyddus fel Cwpan Merched Cymru neu Cwpan CBD Merched Cymru yw cystadleuaeth genedlaethol cwpan pêl-droed merched yng Nghymru. Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy'n ei redeg.

Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
Enghraifft o'r canlynolcystadleuaeth bêl-droed Edit this on Wikidata
logo Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
Cardiff City Ladies F.C. (glas) sydd wedi dominyddu'r Gwpan

Gan nad oedd gan Gymru gynghrair genedlaethol i ferched nes sefydlu Uwch Gynghrair Merched Cymru (Adran Premier bellach) yn nhymor 2009–10 Cwpan Cymru oedd yr unig docyn i Gynghrair y Pencampwyr Merched UEFA. Yn wahanol i gêm y dynion, fodd bynnag, caniateir i glybiau sy'n canolbwyntio ar Loegr gymryd rhan. Enillodd Cardiff City Ladies F.C. wyth cwpan yn olynol rhwng 2003 a 2010.

Diwygio Posibl golygu

Yn dilyn nifer o gemau â sgôr uchel, un ochrog yn rownd agoriadol cystadleuaeth 2012-13, galwodd gwefan answyddogol y gynghrair ar CBDC i ystyried ailwampio’r gystadleuaeth[1] er mwyn osgoi canlyniadau mor chwithig yn nhymhorau’r dyfodol ac annog cynghrair is cyfranogiad.

Tlws Cwpan Menywod Cymru golygu

Yn 2022 comisiynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru dlws arbennig fel arwydd o ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu Cwpan Merched Cymru. Cynhyrchwyd ar y ar y cyd â chwmni Inkerman ac Oriel y Gweithwyr, Ynys-hir yn y Rhondda.

Comisiynodd y Gymdeithas i Inkerman gynhyrchu’r tlws newydd, gan weithio’n agos gyda’r artist Dr Gayle Rogers o Oriel y Gweithwyr (Worker's Gallery), Ynshir yn y Rhondda, a ddyluniodd y ddelwedd wedi’i hysgythru ar ochr y tlws.

Mae Inkerman, a sefydlwyd ym 1996, yn Gwmni cynhyrchu tlysau a sefydlwyd a’i redeg gan fenywod, gan gefnogi menywod mewn chwaraeon a busnes a gwneuthurwyr rhai o’r tlysau ledled y byd.

Ysbrydolwyd delwedd Dr Gayle Rogers gan ymddangosiad pêl-droed merched yng Nghymru. Gan weithio i’r briff i gynhyrchu tlws modern i sefyll ochr yn ochr â thlws Cwpan Cymru y dynion presennol. Me wedi’i grefftio â llaw mewn gweithdai yn y DU gan grefftwyr traddodiadol gyda copa'r tlws wedi’i addurno â'r ddraig goch Gymreig â phlatiau aur.

Dywedodd Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched CBDC, Lowri Roberts: “Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â’r tîm yn Inkerman ac Oriel y Gweithwyr i gynhyrchu ein tlws Cwpan Cymru Bute Energy newydd, mawr a beiddgar."</ref>"Bespoke trophy unveiled for Bute Energy Welsh Cup". Gwefan Cymdeithas Bêl-droed Cymru. 10 Tachwedd 2023.</ref>

Enillwyr golygu

Yn ystod blynyddoedd cynnar y gwpan, gwelir amrywiaeth o dimau yn cyrraedd y ffeinal, ond timau o Gaerdydd sydd wedi dominyddu'r gystadleuaeth o'r cychwyn.

Darlledwyd ffeinal 2023-24 yn fyw ar S4C lle gwelwyd Dinas Caerdydd yn ennill y trebl.[2][3] Gwelwyd torf o 1,734 oedd tairgwaith yn fwy i ffeinal yn 2023[4] a hefyd mwy nag oedd i ffeinal Cwpan Cymru y dynion a gynhaliwyd ar yr un maes wythnos ynghynt.[5]

Rhest y gemau terfynnol:[6]

Tymor Enillydd Sgôr Ail Lleoliad
1992–93 Pilkington (Rhyl) 1–0 Merched Inter Caerdydd Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd
1993–94 Pilkington (Rhyl) 2–2 (4–2 [ciciau o'r smotyn) Merched Inter Caerdydd Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd
1994–95 Inter Cardiff Ladies 1–1 (4–3 pen) Merched Dinas Bangor Stadiwm Genedlaethol Cymru, Caerdydd
1995–96 Newport Strikers Ladies 1–0 (a.o.y.) C.P.D. Merched Dinas Bangor Y Cae Ras, Wrecsam
1996–97 C.P.D. Merched Dinas Bangor 3–0 C.P.D. Merched Castellnewydd Emlyn Coedlan y Parc, Aberystwyth
1997–98 Barry Town Ladies 3–0 C.P.D. Merched Dinas Bangor Y Weirglodd, Rhaeadr
1998–99 Barry Town Ladies 3–0 Newport Strikers Ladies Bridge Meadow Stadium, Hwlffordd
1999–2000 Barry Town Ladies 2–2 (3–0 pen) C.P.D. Merched Dinas Bangor Recreation Ground (Caersws), Caersws
2000–01 Barry Town Ladies 3–0 Newport Strikers Ladies Parc Latham, Y Drenewydd
2001–02 Bangor City Girls 3–0 Newport County Ladies
2002–03 Cardiff City Ladies F.C. 1–0 Bangor City Girls
2003–04 Cardiff City Ladies F.C. 4–0 Newtown Ladies
2004–05 Cardiff City Ladies F.C. 4–1 Cardiff City Bluebirds Ladies
2005–06 Cardiff City Ladies F.C. 11–0 Merched Pwllheli
2006–07 Cardiff City Ladies F.C. 6–1 C.P.D. Merched Tref Caernarfon
2007–08 Cardiff City Ladies F.C. 9–0 NEWI Wrexham Ladies
2008–09 Cardiff City Ladies F.C. 3–0 Caerphilly Castle Ladies
2009–10[7] Cardiff City Ladies F.C. 6–0 Merched Athrofa (UWIC) Brewery Field, Pen-y-bont ar Ogwr
2010–11[8] Merched Dinas Abertawe 3–0 C.P.D. Merched Tref Caernarfon Coedlan y Parc, Aberystwyth
2011–12 Cardiff City Ladies F.C. 1–1 (4–2 pen) C.P.D. Merched Met. Caerdydd Brewery Field, Pen-y-bont ar Ogwr
2012–13 Cardiff City Ladies F.C. 3-1 C.P.D. Merched Met. Caerdydd Parc y Scarlets, Llanelli
2013–14[9] C.P.D. Merched Met. Caerdydd 4-0 Merched Dinas Abertawe Parc Stebonheath, Llanelli
2014–15 C.P.D. Merched Dinas Abertawe 4-2 C.P.D. Merched Dinas Caerdydd Parc Bryntirion, Penybont
2015–16[10] Cardiff City Ladies 5–2 C.P.D. MBi Llandudno
2016–17[11] C.P.D. Merched Met. Caerdydd 2–2 a.e.t. (5–4 pen) Merched Dinas Abertawe Parc Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr
2017–18[12] Merched Dinas Abertawe 2–1 C.P.D. Merched Dinas Caerdydd
2018–19[13] C.P.D. Merched Met. Caerdydd 2–0 C.P.D.M. Tref y Fenni Dragon Park, Casnewydd
2019-20 [14] Dim Ffeinal oherwydd COVID-19
2021–22 Dinas Caerdydd 2–0 Merched Met Caerdydd Parc Bryntirion, Penybont
2022–23[15] Dinas Caerdydd 4–0 Briton Ferry Llansawel Stadiwn Penydarren, Merthyr Tudful
2023–24[16] Dinas Caerdydd 2–0 Wrecsam Rodney Parade, Casnewydd

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Time To Reform The Welsh Cup?". leaguewebsite.co.uk/womenswelshpremierleague. 1 October 2012. Cyrchwyd 30 October 2012.
  2. "Merched Caerdydd yn llygadu'r trebl Fe fydd Caerdydd a Wrecsam yn mynd benben â'i gilydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yng Nghasnewydd". Golwg360. 2 Mai 2024.
  3. "Megan Bowen: "Ni wedi dangos pam ni'n haeddu'r trebl." Caerdydd yn ennill Cwpan Cymru Bute Energy 2023/24 ac yn sicrhau'r trebl 🏆". Twitter Sgorio. 5 Mai 2024.
  4. {{cite web |url=https://twitter.com/FAWales/status/1787175338713153746 |title=1,734 Trebling the previous attendance record for a #ButeEnergyWelshCup final 🙌 |publisher=Twitter @FAWales |date=5 Mai 2024}
  5. "Y GÊM LAWN Wrecsam v Caerdydd Rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy". Sgorio ar sianel Youtube S4C. 5 Mai 2024.
  6. "Wales - List of Challenge Cup Finals (Women)". RSSSF. 2006.
  7. "Cardiff retein Welsh Cup for eighth year". shekicks.net. 19 April 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 16 May 2011.
  8. "Swansea lift Welsh Cup". shekicks.net. 20 March 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 16 May 2011.
  9. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 14 April 2014.CS1 maint: archived copy as title (link)
  10. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2016. Cyrchwyd 21 Ebrill 2016.CS1 maint: archived copy as title (link)
  11. "Cardiff Met win Welsh Cup final shootout". She Kicks. 9 April 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 April 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.
  12. http://www.faw.cymru/en/news/swansea-come-back-beat-cardiff-faw-womens-cup-final/
  13. "FAW Women's Cup: Cardiff Met Women win domestic treble". 14 April 2019. Cyrchwyd 22 July 2019.
  14. https://www.bbc.co.uk/sport/football/49100220
  15. "Cardiff City Women win Welsh Cup". 25 April 2023.
  16. "Y GÊM LAWN". Sgorio ar sianel Youtube S4C. 5 Mai 2024. Text " Wrecsam v Caerdydd " ignored (help); Text " Rownd derfynol Cwpan Cymru Bute Energy " ignored (help)