Cyffes Ffydd Westminster

Cyffes ffydd Ddiwygiedig yw Cyffes Ffydd Westminster. Wedi'i llunio gan Gymanfa Westminster fel rhan o Safonau Westminster i fod yn gyffes i Eglwys Loegr, daeth yn safon isradd athrawiaeth Eglwys yr Alban ac mae'n parhau felly hyd heddiw. Mae wedi cael dylanwad mawr o fewn eglwysi Presbyteraidd ledled y byd.

Tudalen deitl argraffiad o'r Gyffes o 1647

Ym 1643, galwodd Senedd Lloegr ar "Ddiwynyddion hyddysg, duwiol a doeth" i gyfarfod yn Abaty Westminster er mwyn rhoi cyngor ar faterion addoliad, athrawiaeth, llywodraeth a disgyblaeth yn Eglwys Loegr. Cyffes Ffydd Westminster oedd ffrwyth eu cyfarfodydd dros gyfnod o bum mlynedd, yn ogystal â'r Catecism Mwyaf a'r Catecism Lleiaf. Am dros fwy na thair canrif, mae gwahanol eglwysi o gwmpas y byd wedi derbyn y gyffes a'r catecismau fel safonau eu hathrawiaeth, yn isradd i'r Beibl.

Addaswyd y Gyffes gan Gynulleidfawyr yn Lloegr i ffurfio Datganiad Savoy ym 1658, ac yn yr un modd, newidiodd Bedyddwyr Lloegr Ddatganiad Savoy ym 1689er mwyn cynhyrchu Ail Gyffes Llundain y Bedyddwyr 1689. Roedd Presbyteriaid, Cynulleidfawyr a Bedyddwyr Lloegr, ymhlith eraill, yn cael eu hadnabod fel Anghydffurfwyr gan nad oeddynt yn cydffurfio â Deddf Unffurfiaeth 1662, a sefydlodd Eglwys Loegr fel yr unig eglwys gyfreithlon, ond mewn sawl ffordd, unedig oeddynt i gyd oherwydd eu cyffesau cyffredin a luniwyd ar sail Cyffes Westminster.

Y sefyllfa hanesyddol golygu

 
Herbert, John Rogers, RA (tua 1844), The Assertion of Liberty of Conscience by the Independents at the Westminster Assembly of Divines (paentiad).

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr (1642–1649), cododd Senedd Lloegr fyddinoedd mewn cynghrair â'r Cyfamodwyr, a oedd, i bob pwrpas, yn llywodraethu'r Alban erbyn hynny, yn erbyn lluoedd Siarl I, brenin yr Alban, Iwerddon a Lloegr. Darparu dogfennau swyddogol er mwyn diwygio Eglwys Loegr oedd diben Cymanfa Westminster, lle yr oedd 121 o glerigwyr Piwritanaidd. Roedd Eglwys yr Alban newydd ddiswyddo'r esgobion a osodwyd gan y brenin ac yna wedi adfer Presbyteriaeth (gweler Rhyfel yr Esgobion). Oherwydd hyn, fel amod o'r gynghrair â Senedd Lloegr, sefydlodd Senedd yr Alban y Gynghrair a'r Cyfamod Difrifol â Senedd Lloegr, a oedd yn golygu y byddai Eglwys Loegr yn ymadael ag Esgobwriaeth a glynu'n gyson wrth safonau athrawiaeth ac addoliad Calfinaidd. Cynhyrchwyd y Gyffes a'r Catecismau er mwyn sicrhau cymorth yr Albanwyr yn y frwydr yn erbyn y brenin.

Roedd y Comisynwyr o'r Alban a fynychodd y Gymanfa yn fodlon ar y Gyffes Ffydd, ac ym 1646, anfonwyd y ddogfen at Senedd Lloegr er mwyn cael ei chadarnhau ac at Gymanfa Cyffredinol Eglwys yr Alban. Derbyniwyd y ddogfen heb newid yn yr Alban y flwyddyn wedyn, ond dychwelodd Tŷ'r Cyffredin Lloegr y ddogfen i'r Gymanfa gan ofyn am restr o adnodau o brawf o'r Ysgrythurau. Ar ôl dadl frwd, derbyniwyd y Gyffes yn rhannol fel Erthyglau'r Grefydd Gristionogol ym 1648 drwy ddeddf Seneddol, gan hepgor adran 4 pennod 20 (Rhyddid Cydwybod), adrannau 4–6 pennod 24 (Priodas ac Ysgariad) a phenodau 30 ac 31 (Ceryddon Eglwysig a Synodau a Chynghorau). Y flwyddyn wedyn, cadarnhaodd Senedd yr Alban y Gyffes heb newid.

Ym 1660, ar ôl adfer y frenhinaeth Brydeinig ac esgobyddiaeth Anglicanaidd, diddymwyd dwy ddeddf hon y ddwy Senedd. Er hynny, pan gymerodd Gwilym III le'r brenin Pabyddol, Iago VI a'r I ar orseddau yr Alban, Iwerddon a Lloegr, fe roddodd ei gydsyniad brenhiniol i gadarnhad Senedd yr Alban o'r Gyffes, unwaith eto heb newid, ym 1690.[1]

Cynnwys golygu

Eglurhad systematig o uniongrededd Calfinaidd yw'r gyffes, sydd wedi'i dylanwadu gan ddiwinyddiaeth Biwritanaidd a chyfamodol.

Mae'n cynnwys athrawiaethau sydd yn gyffredin â'r mwyafrif o'r byd Cristnogol, fel y Drindod a marwolaeth aberthol ac atgyfodiad Crist, ac mae'n cynnwys athrawiaethau sydd yn arbennig i Brotestaniaeth hefyd, fel sola scriptura a sola fide. Mae rhai o'i nodweddion lle y mae mwy o anghytundeb yn cynnwys rhagarfaeth ddwbl (ar y cyd â rhyddid dewis), cyfamod gweithredoedd ag Adda, yr athrawiaeth Biwritanaidd nad canlyniad angenrheidiol ffydd yw sicrwydd iachawdwriaeth a Sabathyddiaeth lem.

Yn fwy dadleuol fyth i rai carfanau Cristnogol, dywed mai'r Pab yw'r Anghrist, mai math o eilunaddoliaeth yw offeren yr Eglwys Babyddol, bod gan ynadon sifil yr awdurdod dwyfol i gosbi heresi ac mai dim ond Cristnogion eraill y dylai Cristnogion eu priodi. Ymwrthododd sawl corff â'r datganiadau hyn a oedd wedi derbyn gweddill y gyffes, er enghraifft, Eglwys yr Alban, er bod hawl gan ei gweinidogion lynu wrth y gyffes lawn fel y mae rhai'n ei wneud. Er hyn, mae'r gyffes gyfan yn dal i fod yn rhan o athrawiaeth swyddogol rhai eglwysi Presbyteraidd eraill, er enghraifft, safon Eglwys Bresbyteriadd Awstralia ydyw, yn isradd i Air Duw ac wedi'i darllen yng ngolwg datganiad ei Sylfaen Uno.[2]

Cyfeiriadau golygu

Darllen pellach golygu

  • Duncan, J. Ligon, III, gol. (2003). The Westminster Confession into the 21st Century. Ross-shire, Scotland: Christian Focus Publications. ISBN 9781857928624.
  • Presbyterian Church (U.S.A.) Book of Confessions: Study Edition. Louisville, KY.: Geneva Press, c1999. ISBN 0-664-50012-9

Dolenni allanol golygu