Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain

Gramadeg cerdd dafod yw Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g ac a gyhoeddwyd yn Abertawe yn 1829. Mae'r gyfrol, sy'n honni adfer mesurau caeth a rhydd traddodiadol, yn cynnwys nifer o ffugiadau gan Iolo, yn fesurau gwneud a cherddi, a briodolir i hen feirdd Morgannwg. Cafodd yr enw o lawysgrifau dilys sy'n ei ddefnyddio fel enw ar ramadegau'r penceirddiaid. Roedd y llyfr yn ddylanwadol iawn yn y 19eg ganrif a chafwyd sawl argraffiad ohono.

Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain
Cyhoeddwyd argraffiad newydd o Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain, ynghyd ag odliadur Cynddelw, gan H. Humphreys yng Nghaernarfon, tua'r 1870au

Disgrifiad golygu

Ffugiadau Iolo golygu

Ymddengys mai prif symbyliad Iolo wrth lunio'r ffugwaith oedd ymwrthod â'r pedwar mesur ar hugain, y gyfundrefn mesurau caeth a sefydlwyd gan Dafydd ab Edmwnd yn Eisteddfod Caerfyrddin 1451.[1] Fel y noda Thomas Parry yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900,

"Dywedodd [Iolo] fod beirdd Morgannwg wedi digio wrth Ddafydd ab Edmwnd am ad-drefnu'r mesurau cerdd dafod yn eisteddfod Caerfyrddin yn y bymthegfed ganrif, a glynasant hwy wrth yr hen gyfundrefn o fesurau a gadwyd ym Morgannwg trwy'r canrifoedd, er ei cholli ym mhob rhan arall o Gymru. I gynnal y stori hon dyfeisiodd gyfundrefn o fesurau, gydag enghreifftiau ac enwau beirdd a phopeth".[2]

Dadansoddodd Syr John Morris-Jones ffugwaith Iolo mewn atodiad i'r gyfrol Cerdd Dafod. Mae'n dweud mai "ymosodiad ffyrnig ar draddodiad prydyddion Cymru yw dosbarth Iolo Morganwg". Â ymlaen i esbonio: "Gan mai ei ddadl oedd mai o blaid rhyddid y safai beirdd Morgannwg, fe feddyliodd am ddyfeisio iddynt ddosbarth a fyddai'n ddigon rhydd i gynnwys pob mesur."[3]

Gwerth llenyddol golygu

Ond er fod cyfran helaeth o'r llyfr yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun, mae beirniad a haneswyr llenyddiaeth Gymraeg ar y cyfan yn barod i gydnabod doniau digamsyniol Iolo fel ysgolhaig gorau ei gyfnod ac fel gŵr y mae ei wybodaeth o'r llawysgrifau Cymraeg i'w gweld yn amlwg yn y gyfrol hon. Dyna un rheswm pam y llwyddodd i dwyllo cynifer o bobl. Cyfaddefir hefyd, hyd yn oed gan ei feirniaid llyfnaf fel G. J. Williams, fod dawn farddonol Iolo yn disgleirio yn y darnau o gerddi ffug a geir yn y llyfr hwn, cerddi sy'n adlewyrchu rhamantiaeth y cyfnod a lle ceir "afiaith a gorhoen y bardd sy'n canu i serch, i natur, i fwynder a hyfrydwch natur."[4] Dyma un enghraifft, "ar y Gyhydedd drosgl, deufan Hyppynt", a dadogir ar "Dafydd o'r Nant":

Fe ddaeth y dorf adar
I'r coedydd a'u llafar
Yn gynnar y gwanwyn,
A minneu'n cydganu
A'r hyfryd awenllu,
Mewn gerddlu, mewn gwyrddlwyn.
Hyfryded edrycher
Yw'r coed yn eu gwychder
A glwysder y glasdwyn;
Mae Mai yn ei heulwisg
Yn rhoddi blodeuwisg
A deilwisg ar dewlwyn.[5]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. G. J. Williams, Iolo Morganwg (Caerdydd, 1956), tud. 374.
  2. Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, tud. 236.
  3. John Morris-Jones, Cerdd Dafod (Rhydychen, 1926), tud. 378.
  4. Iolo Morganwg, tud. 377.
  5. Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (argraffiad H. Humphreys, Caernarfon, d.d.), tud. 66.