Cynghrair Cymreig Arizona

Cymdeithas ddiwylliannol yn Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA) yw Cynghrair Cymreig Arizona (Saesneg: Welsh League of Arizona) sy'n hybu Cymru a'r iaith Gymraeg yn yr Unol Daleithiau.

Cynghrair Cymreig Arizona
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas Edit this on Wikidata
RhanbarthArizona Edit this on Wikidata

Amcan y cynghrair yw hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru trwy:[1]

  • Trefnu neu cydlunio digwyddiadau celfyddydol a llenyddol, cynnig cyrsiau i ddysgu Cymraeg a chymryd rhan mewn gwyliau Celtaidd a digwyddiadau eraill yn yr Unol Daleithiau.
  • Cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac UDA trwy fod o gymorth i ymwelwyr, pobl busnes ac Americanwyr Cymreig
  • Cryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r gwledydd Celtaidd eraill trwy gefnogi grwpiau a mudiadau Celtaidd eraill yn yr Unol Daleithiau.

Mae'r cynghrair yn rhedeg gwefan ac yn cynnal gwersi Cymraeg ar-lein yn rhad ac am ddim. Maent yn rhedeg dosbarthau nos dysgu Cymraeg yn Tucson a Phoenix, Arizona.[2]

Cafodd waith y Cynghrair ei gynnwys ar raglen am etholiad arlywyddol UDA 2008 gan Dewi Llwyd a ddangoswyd ar S4C.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cynghrair Cymreig Arizona". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.
  2. "Cynghrair Cymreig Arizona". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.
  3. "Cynghrair Cymreig Arizona - rhaglen Dewi Llwyd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-28. Cyrchwyd 2009-04-25.

Dolen allanol golygu