Awdur Americanaidd yn yr iaith Saesneg oedd Daniel Keyes (9 Awst 192715 Mehefin 2014) sydd yn nodedig am ei nofel ffuglen wyddonol Flowers for Algernon (1966). Mae nifer o'i weithiau yn ymwneud â themâu seicolegol, yn enwedig hunaniaethau'r bersonoliaeth hollt.

Daniel Keyes
Ganwyd9 Awst 1927 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 2014 Edit this on Wikidata
Boca Raton, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, awdur ffuglen wyddonol, sgriptiwr, academydd, awdur ffeithiol, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ohio
  • Prifysgol Wayne State Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFlowers for Algernon Edit this on Wikidata
Arddullgwyddonias Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Nebula am y Nofel Orau, Gwobr Hugo am y Stori Fer Orau, Author Emeritus Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.danielkeyesauthor.com/ Edit this on Wikidata

Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, i deulu Iddewig. Astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Efrog Newydd cyn iddo ymaelodi â Gwasanaeth Arforol yr Unol Daleithiau yn 17 oed yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Derbyniodd ei radd baglor mewn seicoleg o Goleg Brooklyn ym 1950.[1][2]

Cafodd swydd yn is-olygydd ffuglen gyda'r cwmni cyhoeddi Stadium Publications, a oedd yn arbenigo mewn cylchgronau rhad (pulp) megis Marvel Science Stories, ac yno ysgrifennodd Keyes ar gyfer Atlas Comics. Gweithiodd hefyd yn athro Saesneg mewn uwchysgolion yn Brooklyn, a chyfrannai sgriptiau comics dan y ffugenwau Kris Daniels a AD Locke ar gyfer y cylchgronau Psychoanalysis, Shock Illustrated, a Confessions Illustrated.[1]

Cyhoeddwyd ei waith enwocaf, Flowers for Algernon, yn gyntaf ar ffurf stori fer yn The Magazine of Fantasy and Science Fiction ym 1959, ac enillodd Wobr Hugo am y stori fer orau. Addasodd Keyes ei stori yn nofel gyfan a gyhoeddwyd ym 1966. Enillodd Wobr Nebula am y nofel orau, a chafodd ei haddasu'n ffilm o'r enw Charly (1968) yn serennu Cliff Robertson, a dderbyniodd Wobr yr Academi am yr Actor Gorau am ei bortread o'r prif gymeriad.

Mae ei ail nofel, The Touch (1968), yn ymwneud â'r straen seicolegol sydd yn effeithio ar oroeswyr damwain niwclear, a'i drydedd, The Fifth Sally (1980), yn adrodd stori merch sydd yn dioddef anhwylder aml-bersonoliaeth. Ymhlith ei nofelau eraill mae The Minds of Billy Milligan (1981) ac Unveiling Claudia (1986), y ddwy yn seiliedig ar achosion go iawn. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Algernon, Charlie and I, yn 2000, a'i nofel olaf, The Asylum Prophecies, yn 2009.

Dechreuodd addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Daleithiol Wayne, Detroit, Michigan, ym 1962, a fe'i penodwyd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Ohio, Athens, ym 1966. Cafodd ei ddyrchafu'n athro Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Ohio ym 1972, a bu yno nes iddo ymddeol yn y 1990au.[1] Bu farw yn Boca Raton, Florida, yn 86 oed o ganlyniad i gymhlethdodau o niwmonia.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Steve Holland, "Daniel Keyes obituary", The Guardian (18 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) "Daniel Keyes - obituary", The Daily Telegraph (18 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Gorffennaf 2014.
  3. (Saesneg) Daniel E. Slotnik, "Daniel Keyes, Author of ‘Flowers for Algernon,’ Dies at 86", The New York Times (17 Mehefin 2014). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Hydref 2021.