Pêl-droediwr Cymreig ydy Danny Gabbidon (ganwyd Daniel Leon Gabbidon 8 Awst 1979) sy'n chwarae i Gaerdydd yn Adran y Bencampwriaeth o Gynghrair Lloegr a thîm cenedlaethol Cymru.

Danny Gabbidon

Gabbidon yn chwarae i Crystal Palace yn 2012
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnDaniel Leon Gabbidon[1]
Dyddiad geni (1979-08-08) 8 Awst 1979 (44 oed)[1]
Man geniCwmbrân, Cymru
Taldra1.78m[1]
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolDinas Caerdydd
Rhif39
Gyrfa Ieuenctid
1996–1998West Bromwich Albion
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1998–2000West Bromwich Albion20(0)
2000Dinas Caerdydd (ar fenthyg)7(0)
2000–2005Dinas Caerdydd193(10)
2005–2011West Ham United96(0)
2011–2012Queens Park Rangers17(0)
2012–2014Crystal Palace33(0)
2014–Dinas Caerdydd0(0)
Tîm Cenedlaethol
1999–2001Cymru dan 2117(0)
2002–Cymru49(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 04:58, 2 Medi 2014 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 20.50, 5 Mehefin 2014(UTC)

Gyrfa clwb golygu

West Bromwich Albion golygu

Dechreuodd ei yrfa fel prentis gyda chlwb West Bromwich Albion ym mis Tachwedd 1996 cyn arwyddo'n broffesiynol ym mis Gorffennaf 1998. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i West Brom yn erbyn Ipswich Town ar 20 Mawrth 1999[2].

Dinas Caerdydd golygu

Wedi cyfnod ar fenthyg gyda Chaerdydd ar ddechrau tymor 2000-01, ymunodd yn barhaol â'r Adar Gleision ym mis Medi 2000 am £500,000[3].Yn ystod ei bum mlynedd ar Barc Ninian, cyrhaeddodd Caerdydd Gemau Ail Gyfle'r Ail Adran yn 2002 cyn sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf yn 2003 a chafodd ei enwebu'n aelod o dîm y flwyddyn y PFA yn 2004[4].

West Ham United golygu

Symudodd i West Ham yn 2005 ynghŷd â'i gyd-Gymro, James Collins[5] er mwyn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr ac yn 2006 chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn erbyn Lerpwl[6] cyn cael ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn West Ham United.

Queen's Park Rangers golygu

Ymunodd â Queen's Park Rangers ym mis Gorffennaf 2011[7] ond wedi i Mark Hughes gymryd yr awenau fel rheolwr y clwb, yn dilyn diswyddiad Neil Warnock, ni chafodd Gabbidon llawer o gyfleon a chafodd ei ryddhau ar ddiwedd tymor 2011-12[8].

Crystal Palace golygu

Ar 18 Medi 2012 ymunodd â Crystal Palace[9] ond ar ôl dau dymor a 38 gêm cafodd ei ryddhau gan y clwb.

Dinas Caerdydd golygu

Ail ymunodd â Chaerdydd fel chwaraewr-hyfforddwr ym mis Medi 2014[10]. Ar 18 Medi 2014 cafodd ei benodi'n rheolwr dros-dro ar Gaerdydd ynghŷd â Scott Young yn dilyn diswyddiad Ole Gunnar Solskjaer[11].

Gyrfa ryngwladol golygu

Gwnaeth Gabbidon 17 ymddangosiad i dîm dan 21 Cymru Y tro9 cyntaf oedd pan gafodd ei alw i garfan llawn Cymru ar gyfer gêm rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws ym mis Hydref 2001 ond bu raid iddo ddisgwyl tan 27 Mawrth 2002 cyn ennill ei gap cyntaf yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec[12].

Cafodd Gabbidon y cyfle i fod yn gapten ar ei wlad pan gollwyd 1-0 yn erbyn Cyprus ym mis Tachwedd 2005[13] ac eto yn y fuddugoliaeth 1-0 dros Bwlgaria ym mis Awst 2007. Ym mis Hydref 2010 cyhoeddodd Gabbidon ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ar ôl ennill 49 cap dros ei wlad[14].

Anrhydeddau golygu

Cafodd Gabbidon wobr Chwaraewr Clwb y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2002 am ei berfformiadau gyda Chaerdydd ac yn 2005 enillodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn[15].

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 161. ISBN 978-1-84596-601-0.
  2. "Soccerbase: Danny Gabbidon". Unknown parameter |publishged= ignored (help)
  3. "Marriott stays at Sunderland". 2000-09-22. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Henry retains PFA crown". 2004-04-25. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Hammer swoop for defensive trio". 2005-07-05. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Liverpool 3-3 West Ham (a.e.t.)". 2006-06-13. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "QPR snap up Danny Gabbidon on Free Transfer". 2011-07-25. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Premier League Released List 2011-12" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-06-16. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Eagles snap up free agent Danny Gabbidon". 2012-09-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-04. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Deal done: Danny returns to the City". 2014-09-01. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-01. Cyrchwyd 2014-09-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Cardiff Caretaker Managers Danny Gabbidon and Scott Young bullish". 2014-09-19. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Wales 0-0 Czech Republic". 2002-03-27.
  13. "Gabbidon desires captaincy again". 2005-11-18. Unknown parameter |published= ignored (help)
  14. "West Ham's Danny Gabbidon quits international game". 2010-10-04. Unknown parameter |published= ignored (help)
  15. "Gabbidon voted top Welsh player". 2005-10-04. Unknown parameter |published= ignored (help)


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.