Datganiad ar Hawliau Pobl Gynhenid

Mae'r Datganiad ar Hawliau Pobl Gynhenid (Declaration on the Rights of Indigenous Peoples; UNDRIP neu DOTROIP[1][2]) yn benderfyniad cyfreithiol nad yw'n rhwymol a basiwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2007. Mae'n amlinellu ac yn diffinio hawliau unigol a chyfunol pobloedd brodorol, gan gynnwys eu hawliau perchnogaeth i fynegiant diwylliannol a seremonïol, hunaniaeth, iaith, cyflogaeth, iechyd, addysg, a materion eraill. Mae hefyd yn gwarchod eu heiddo deallusol a diwylliannol[3]

Datganiad ar Hawliau Pobl Gynhenid
Maori Seland Newydd yn dathlu cymeradwyaeth eu gwlad i Ddatganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Gynhenid yn 2010
Enghraifft o'r canlynolPenderfyniad Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi13 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Map Datganiad ar Hawliau Pobl Gynhenid yn pleidleisio ar 13 Medi 2007: Gwyrdd - o blaid; Coch - yn erbyn; Melyn - ymatal; Llwyd - absennol

Mae'r Datganiad "yn pwysleisio hawliau pobl frodorol i gynnal a chryfhau eu sefydliadau, diwylliannau a thraddodiadau eu hunain, ac i ddilyn eu datblygiad yn unol â'u hanghenion a'u dyheadau eu hunain." Mae'n "gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobloedd brodorol," ac mae'n "annog eu cyfranogiad llawn ac effeithiol ym mhob mater sy'n ymwneud â nhw a'u hawl i aros yn wahanol ac i ddilyn eu gweledigaethau eu hunain o ran datblygiad economaidd a chymdeithasol".

Nod y datganiad yw annog gwledydd i weithio ochr yn ochr â phobloedd brodorol i ddatrys materion byd-eang, megis datblygu, democratiaeth amlddiwylliannol, a datganoli.[4]

Ar 13 Medi 2007, pleidleisiodd y Cenhedloedd Unedig o fwyafrif helaeth dros y Datganiad: 144 o blaid, 4 yn erbyn, ac 11 yn ymatal.[5] Ers 2007, mae’r pedair gwlad a bleidleisiodd yn erbyn wedi gwrthdroi eu safbwynt ac maent bellach yn cefnogi’r Datganiad.

O Chwefror 2020, mae Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, Pobl Gynhenid yn disgrifio (A/RES/61/295) fel: “...yr offeryn rhyngwladol mwyaf cynhwysfawr ar hawliau pobl frodorol. Mae’n sefydlu fframwaith cyffredinol o safonau gofynnol ar gyfer goroesiad, urddas a lles pobloedd brodorol y byd ac mae’n ymhelaethu ar safonau hawliau dynol a rhyddid sylfaenol presennol fel y maent yn berthnasol i sefyllfa benodol pobloedd brodorol.”[6]

Fel Datganiad y Cynulliad Cyffredinol, nid yw UNDRIP yn offeryn cyfreithiol rwymol o dan gyfraith ryngwladol.[7][8] Yn ôl datganiad i'r wasg gan y Cenhedloedd Unedig mae'n "cynrychioli datblygiad deinamig normau cyfreithiol rhyngwladol ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig i symud i rai cyfeiriadau"; mae'r Cenhedloedd Unedig yn ei ddisgrifio fel un sy'n gosod "safon bwysig ar gyfer trin pobl frodorol a fydd, heb os, yn arf arwyddocaol tuag at ddileu troseddau hawliau dynol yn erbyn 370 miliwn o bobl frodorol y blaned, a'u cynorthwyo i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac ymyleiddio.

Cymhwyso golygu

Mae gan nifer o wledydd ôl-ymerodraethol sydd â chyfrannau mawr o ymsefydlwyr-trefedigaethol o'r boblogaeth gyfan brosesau ar y gweill i gydnabod a gwireddu hawliau pobl frodorol yn ymarferol. Mae'r rhain yn cynnwys Seland Newydd, Canada,[9] ac Awstralia . [10]

Gwadu bodolaeth pobloedd brodorol golygu

Nid yw sawl gwladwriaeth yn cydnabod lleiafrifoedd ethnig brodorol o fewn eu tiriogaethau fel pobl frodorol, ac yn syml yn cyfeirio atynt fel lleiafrifoedd ethnig. Mae llawer o'r lleiafrifoedd ethnig hyn wedi'u gwthio i'r cyrion o'r boblogaeth ethnig fwyafrifol mewn mesurau perfformiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cymharol ac mae eu hawliau brodorol wedi'u hamddiffyn yn wael. Mae llofnodwyr UNDRIP sy'n diystyru'r bwriad a amlinellir yn erthyglau UNDRIP yn cynnwys Gweriniaeth Pobl Tsieina[11] a Gweriniaeth Sosialaidd Fietnam.[12]

Cynnwys golygu

Mae'r Datganiad wedi'i strwythuro fel penderfyniad y Cenhedloedd Unedig, gyda 23 o gymalau rhagbrofol a 46 o erthyglau. Yn y rhan fwyaf o erthyglau, cynhwysir y dyhead ar gyfer sut y dylai'r Wladwriaeth hyrwyddo a diogelu hawliau pobl frodorol. Mae prif themâu'r erthyglau'n cynnwys: [3]

  • Hawliau unigolion a phobloedd (brodorol) i hunan-benderfynu (Erthyglau 1 - 8; 33 - 34)
  • Hawliau unigolion a phobl (brodorol) i amddiffyn eu diwylliant trwy ddefodau, arferion, ieithoedd, addysg, y cyfryngau, a chrefydd, gan gynnwys rheoli eu heiddo deallusol (Erthyglau 9 - 15, 16, 25, a 31)
  • Cadarnhau hawl y bobl frodorol i lywodraethu yn ei dull unigryw ei hun, ac i ddatblygiad economaidd yn ol eu hangen (Erthyglau 17 - 21, 35 - 37)
  • Hawliau iechyd (Erthygl 23 - 24)
  • Amddiffyn is-grwpiau, henoed, menywod a phlant (Erthygl 22)
  • Hawliau tir - o berchnogaeth (gan gynnwys gwneud iawn, neu ddychwelyd tir h.y Erthygl 10) i faterion amgylcheddol (Erthyglau 26 - 30, a 32)
  • Pennu sut y dylid dehongli'r ddogfen hon wrth gyfeirio ati yn y dyfodol (Erthyglau 38 - 46).

Gwledydd Prydain golygu

Wrth siarad ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, dywedodd Llysgennad y DU a Dirprwy Gynrychiolydd Parhaol i’r Cenhedloedd Unedig, Karen Pierce, "nad oedd y Datganiad yn gyfreithiol rwymol ac nad oedd yn wneud unrhyw geisiadau ôl-weithredol o ddigwyddiadau hanesyddol. Nid yw'r grwpiau lleiafrifol cenedlaethol a grwpiau ethnig eraill o fewn tiriogaeth y Deyrnas Unedig a’i thiriogaethau tramor yn dod o fewn cwmpas y bobloedd brodorol yr oedd y Datganiad yn berthnasol iddynt."

Cyfeiriadau golygu

  1. "DOTROIP-24-2-PDF" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-09-03. Cyrchwyd 2018-09-03.
  2. "United Nations Declaration on the Rights of Indigenous Peoples". United Nations Permanent Forum on Indigenous Issues. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 1, 2015. Cyrchwyd 11 December 2015.
  3. 3.0 3.1 "United Nations Declaration on the Rights of Indigenous Peoples: United Nations Resolution adopted by the General Assembly on 13 September 2007" (PDF). United Nations. 2007. tt. 22–23.
  4. United Nations Permanent Forum on Indigenous Issues. "Frequently Asked Questions – Declaration on the Rights of Indigenous Peoples" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar January 15, 2012. Cyrchwyd 5 March 2012.
  5. "General Assembly adopts Declaration on Rights of Indigenous Peoples; 'Major Step Forward' towards human rights for all, says President". UN General Assembly GA/10612. 13 September 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 November 2007. Cyrchwyd 21 July 2021.
  6. "United Nations Declaration on the Rights of Indigenous Peoples | United Nations For Indigenous Peoples". www.un.org. Cyrchwyd 2020-02-16.
  7. "FREQUENTLY ASKED QUESTIONS - DECLARATION ON THE RIGHTS OF INDIGENOUS PEOPLES" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar April 13, 2013. Cyrchwyd 2013-11-18.
  8. Barnabas, Sylvanus Gbendazhi (2017-12-07). "The Legal Status of the United Nations Declaration on the Rights of Indigenous Peoples (2007) in Contemporary International Human Rights Law". International Human Rights Law Review 6 (2): 253. doi:10.1163/22131035-00602006. ISSN 2213-1027. https://brill.com/view/journals/hrlr/6/2/article-p242_242.xml.
  9. "Canada: Implementation of UNDRIP is now the law". June 29, 2021.
  10. "Incorporating UNDRIP into Australian law would kickstart important progress". September 13, 2021.
  11. "China & the UN Declaration on the Rights of Indigenous Peoples: The Tibetan Case". May 27, 2014.
  12. "Denied Recognition: Vietnam's refusal to recognize the indigenous and religious rights of the Khmer Krom".

Dolen allanol golygu