Datgelu tystiolaeth

Gofyniad yn y gyfraith sifil a chyfraith trosedd yw datgelu tystiolaeth. Mae datgelu yn y gyfraith sifil, y cyfeirid ato gynt fel darganfod, wedi cael ei ddisgrifio fel 'gosod cardiau ar y bwrdd wyneb i fyny' (putting your cards face up on the table), per Syr John Donaldson yn Davies v Eli Lilly & Co [1997] 1 All ER 801.

Mae'r broses yn cael ei rheoli gan y Rheolau Trefniadaeth Sifil ac mae gorfodaeth i ddatgelu yn gallu codi cyn bod unrhyw achos llys yn dechrau. Cafodd y rheolau sy'n ymwneud â datgelu mewn cysylltiad â'r broses droseddol eu newid gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ac maent yn cynnwys proses dri cham. Yr erlyniad sy'n gyfrifol am wneud y datgelu cyntaf. Ar ôl hynny, mae'n ofynnol i'r amddiffyniad ddarparu datganiad amddiffyn sy'n crynhoi natur amddiffyniad y cyhuddedig, unrhyw faterion lle ceir anghytuno ynghylch ffeithiau, ac unrhyw bwynt cyfreithiol y gellid ei godi. Mae'r trydydd cam yn gofyn datgelu pellach gan yr erlyniad - mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r erlyniad ddatgelu unrhyw ddeunyddiau a allai danseilio achos yr erlyniad. Nid yw'r rheolau presennol yn gofyn bod unrhyw ddatgelu gan yr erlyniad nes bod y diffynnydd wedi pledio'n ddieuog ac efallai y byddai'n fuddiol petai'r cyfryw ddatgelu yn digwydd cyn i ble gael ei gofnodi.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.