David Vaughan Thomas

cerddor

Cyfansoddwr Cymreig oedd David Vaughan Thomas (15 Mawrth 187315 Medi 1934).

David Vaughan Thomas
Ganwyd15 Mawrth 1873 Edit this on Wikidata
Ystalyfera Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1934 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni yn Ystalyfera, Morgannwg. Astudiodd cerddoriaeth o dan Joseph Parry yn Abertawe. Aeth i Goleg Llanymddyfri, ac astudiodd mathemateg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen. Yn ddiweddarach enillodd raddau BMus a DMus o Rydychen (1906, 1911). Bu'n dysgu yng Ngholeg y Gwasanaethau Unedig, Westward Ho!, ac yn Ysgol Harrow. Ym 1906 priododd â Morfydd Lewis o Bontarddulais, a bu iddynt dri mab; bu'r teulu'n byw yn Abertawe am lawer o flynyddoedd. Ym 1927 penodwyd ef yn arholwr tramor ar gyfer Coleg Cerdd y Drindod (Trinity College of Music), Llundain, a theithiodd yn helaeth yn y sefyllfa honno. Bu farw yn Johannesburg, De Affrica.

Gweithiau cerddorol golygu

  • = dyddiad cyhoeddi

Cerddorfaol golygu

  • Agorawd (a gyfansoddwyd ar gyfer agor yr Ŵyl Ddrama Gymraeg, Abertawe, 1922)

Corawl golygu

  • The Bard, bariton, corws a cherddorfa (Thomas Gray; perfformiwd yng Ngŵyl Caerdydd, 1910)
  • Chwe Alaw Werin, côr plant a cherddorfa (Eisteddfod Abertawe, 1926)
  • Llyn y Fan, soprano, tenor, bariton, corws a cherddorfa (J. Jenkins; perfformiwd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1907)
  • Song for St Cecilia's Day (Dryden; perfformiwyd yn Queen's Hall, Llundain, 1909)

Rhanganau golygu

  • Carol (Lewis Davies, 1933*)
  • Coffâd am y Gorseddogion Ymadawedig (1926*)
  • Deio Bach (John Jones)
  • Y Fun a'r Lliw Ewyn Llif (Bedo Aeddren, 1925*)
  • Y Gariad Gollwyd (Wordsworth cyf. Gwili)
  • Yr Hafaidd Nos (Owen Griffith Owen, 1913*)
  • Here's to Admiral Death (Henry Newbolt, 1916*)
  • How Sleep the Brave (William Collins, 1925*)
  • How Sweet the Moonlight Sleeps (Shakespeare, 1929*)
  • Hymn to Diana (Ben Jonson, 1914*)
  • Let us Now Praise Famous Men (Lewis Davies, 1920*)
  • Meg Merrilies (Keats, 1922)
  • Molawd Môn (Goronwy Owen, 1926)
  • Orpheus with his Lute (Shakespeare, 1932*)
  • Phoebus Arise (William Drummond, 1924)
  • Prospice (1935*)
  • Summer is Gone (Thomas Hood, 1932*)
  • Sweet Content (1932*)
  • Up-hill (Christina Rossetti, 1914*)
  • Who is Silvia? (Shakespeare, 1932*)

Anthemau golygu

  • Yr Arglwydd yw fy Mugail (1930)
  • Bendithiaf yr Arglwydd (1906*)
  • Bywyd (1926*)
  • Pwy ydwy y Rhai Hyn (1915*)
  • Rwy'n Ofni Grym y Dŵr
  • There is a Green Hill Far Away (C. F. Alexander, 1914*)
  • Ysbryd yw Duw, côr meibion (1920*)

Caneuon golygu

  • Angladd y Marchog (R. D. Rowlands, 1906*)
  • Bedd y Dyn Tylawd (Ioan Emlyn, 1914*)
  • Berwyn, llais a cherddorfa (William Llŷn, 1926)
  • Y Bwthyn Bach To Gwellt (1923*)
  • Caledfwlch (T. Gwynn Jones, 1931*)
  • Cân Hen Ŵr y Cwm (1922*)
  • Cân y Bardd wrth Farw (Gwenffrwd, 1907*)
  • Cân y Llanc Chwerthinllyd (1922*)
  • Cantref y Gwaelod (1931)
  • Cantre'r Bardd (1932)
  • Come Along; Can't you Hear? (D. M. Beddoes, 1914*)
  • Y Delyn (Caledfryn, 1932)
  • Dirge in Woods (George Meredith, 1924*)
  • Dorset Voices (Eos Gwalia, 1913*)
  • Einioes (Rhys Jones, 1922*)
  • Enter these Enchanted Woods (George Meredith, 1914*)
  • Y Ferch o'r Scer (1922*)
  • Ffarwel fy Ngeneth (Eben Fardd, 1933*)
  • Gofyn Cosyn (Goronwy Owen, 1922)
  • How Sweet the Moonlight Sleeps (Shakespeare, 1929*)
  • Llais yr Adar (1914*)
  • Y Lloer, deuawd (David Vaughan Thomas, 1924*)
  • Nant y Mynydd (1930*)
  • Y Newydd Dant (Edward Jenkins, 1915*)
  • O Fair Wen (William Llŷn, 1926)
  • Rock of Ages (A. M. Toplady, 1902*)
  • Saith o Ganeuon ar Gywyddau Dafydd ap Gwillym ac Eraill: "Y Nos", "Y Gwlith", "Miwsig", "Elen", "Dau Filgi", "Claddu'r Bardd o Gariad", "Hiraeth am yr Haf" (1922)
  • Seren Heddwch (1931)
  • Si Hwi Lwli (T. H. Jones, 1914*)
  • Song in the Songless (George Meredith)
  • Stafell Gynddylan, bariton, feiolin, soddgrwth a thelyn (1926*)
  • Ten Welsh Folk Songs (1928*)
  • Thou to Me Art Such a Spring (George Meredith)
  • When I Would Image her Features (George Meredith)
  • The Winter Rose (George Meredith)
  • Yr Wylan Deg (Dafydd ap Gwyilym, 1924)
  • Ymadawiad Arthur (T. Gwynn Jones, 1930*)
  • Ysbryd y Mynydd (L. D. Jones, 1914*)

Offerynnol golygu

  • Allegro vivace in D, piano (1934*)
  • Bourrée a Musette, sielo a phiano
  • Duo yn G, sielo a phiano (1931)
  • Pedwarawdau Llinynnol, A, e, G
  • Pumawd Llinynnol (perfformaid cyntaf Cape Town, 1930)
  • Romanza, piano (1934*)
  • Romanza, sielo a phiano
  • A Welsh Dance, telyn, obo, feiolin (1924)

Emyn donau golygu

  • Mwy na 20 emyn dôn

Llyfryddiaeth golygu

Tir Newydd 16 (Mehefin 1939) [rhifyn arbennig]

Dolenni allanol golygu