Perfformir Dawns y Blodau mewn seremonïau eisteddfodol. Mae merched ifainc o 7 i 12 oed yn dawnsio o gwmpas y bardd buddugol. Dyfeisiwyd y ddawns gan Albert Evans-Jones (Cynan) pan oedd yn Archdderwydd, fel elfen o seremonïau modern a greodd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe'i gwelwyd am y tro cyntaf ym 1936 wrth gyhoeddi Eisteddfod Machynlleth 1937 ac ar y llwyfan ym 1954 yn ystod Eisteddfod Ystradgynlais.[1]

Dawns y Blodau
Enghraifft o'r canlynolmath o ddawns Edit this on Wikidata
Mathdawns werin Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (2008), s.v. "Dawns flodau"
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.