Delyth Jewell

Gwleidydd o Gymraes

Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Delyth Jewell (ganwyd 1987). Mae'n Aelod o'r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru ers 2019.[2]

Delyth Jewell
AS
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyrain De Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
8 Chwefror 2019 (2019-02-08)[1]
Rhagflaenwyd ganSteffan Lewis
Manylion personol
GanwydDelyth Non Jewell
1987
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolPlaid Cymru
Alma materColeg Sant Huw, Rhydychen, Coleg yr Iesu, Rhydychen
SwyddGweithiwr elusennol

Roedd yn ail ar rhestr Etholaeth ranbarthol Dwyrain De Cymru ac felly yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis cafodd ei dewis i gymryd y sedd. Tyngodd ei llw ar 8 Chwefror 2019.[3]

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Ganwyd Delyth Non Jewell yng Nghaerffili a fe'i magwyd yn Ystrad Mynach.[4] Mynychodd Ysgol Bro Allta ac yna Ysgol Gyfun Cwm Rhymni lle gwnaeth ei lefelau A yn Saesneg, Cymraeg, Hanes a Ffrangeg. Gwnaeth radd Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Sant Huw, Rhydychen gan raddio yn 2008. Yn 2009 cwblhaodd ôl-radd Meistri mewn Astudiaeth Celtaidd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen am ei thraethawd ymchwil ar y gynghanedd yng ngwaith beirdd Eingl-Gymreig. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol roedd hi'n Llywydd y Gymdeithas Gymreig (Cymdeithas Dafydd ap Gwilym).

Gyrfa golygu

Wedi gadael Rhydychen, aeth i weithio yn San Steffan, lle'r oedd hi'n ysgrifennydd areithiau ac yn ymchwilydd ar gyfer grŵp Plaid Cymru am bum mlynedd a hanner. Cododd i swydd Pennaeth Ymchwilio a chwaraeodd rôl flaengar mewn ymgyrchoedd wnaeth arwain at gyflwyno cyfreithiau newydd ar stelcian (2012) a thrais domestig (2015). Yn 2014 derbyniodd Gwobr Ymchwilydd Seneddol y Flwyddyn yng ngwobrau DODS tra’r oedd yn gweithio i’r Aelod Seneddol Elfyn Llwyd. Symudodd yn ôl i Gymru yn 2015 i weithio fel Rheolwr Polisi gyda Cyngor ar Bopeth rhwng Mawrth 2015 ac Ebrill 2018. Wedi hynny cychwynnodd weithio i ActionAid fel arbenigwr ar ymgyrchoedd hawliau merched.[5]

Bywyd personol golygu

Mae'n byw ym Mynwent y Crynwyr. Mae hi'n chwaer i'r academydd ac awdur Rhianedd Jewell.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Delyth Jewell AS - Proffil Aelod o'r Senedd". Senedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-04. Cyrchwyd 9 Chwefror 2019.
  2. Delyth Jewell fydd yn cymryd lle Steffan Lewis yn y Cynulliad , Golwg360, 16 Ionawr 2019.
  3.  Mae @delythjewell wedi tyngu ei llw a’i derbyn fel aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru. @Plaid_Cymru (8 Chwefror 2019).
  4.  Delyth Jewell - Plaid Cymru. Plaid Cymru (2016). Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.
  5.  Delyth Jewell Rheolwr Polisi, Cyngor ar Bopeth.. Cyngor ar Bopeth. Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.

Dolenni allanol golygu