Bardd ac awdur Cymraeg oedd Derec Tomos. Enw ffug ydoedd. Prif awdur y cerddi dychanol a gyhoeddwyd yn enw Derec Tomos ynghyd â'r gyfrol ryddiaith oedd y gŵr busnes a'r llenor Eirug Wyn. Ond cyfrannai sawl un arall at y casgliadau o gerddi. Cyhoeddwyd y rhan fwyaf ohonynt gan Eurig Wyn ei hunan.