Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo

Llyfr Eidaleg o 1632 gan Galileo Galilei yw Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo ("Deialog ynglŷn â dwy brif system y byd") sy'n cymharu system gosmolegol newydd Copernicus â system draddodiadol Ptolemi. Cyhoeddwyd y llyfr yn Fflorens gyda chaniatâd ffurfiol y Chwilys. Fe'i cysegrwyd i noddwr Galileo, Ferdinando II de' Medici, a dderbyniodd y copi printiedig cyntaf ar 22 Chwefror 1632.[1]

Dialogo sopra i due massimi sistemi del mondo
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGalileo Galilei Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Rhan oIndex Librorum Prohibitorum Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1632 Edit this on Wikidata
Genregwyddoniaeth poblogaidd Edit this on Wikidata
Prif bwncseryddiaeth Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn system Copernus, mae'r Ddaear a phlanedau eraill yn cylchdroi o gwmpas yr Haul, tra yn system Ptolemi mae popeth yn y Bydysawd yn cylchdroi o amgylch y Ddaear. Ysgrifennir y llyfr fel deialog rhwng tri chymeriad. Mae'r cyntaf, Salviati, o blaid system Copernicus, yr ail, Simplicio, o blaid Aristoteles[2] a system Ptolemi, a'r trydydd, Sagredo, heb farn sefydlog ar y mater. Er bod y llyfr yn cyflwyno ei hun fel ystyriaeth o'r ddwy system, nid oes amheuaeth mai dehongliad Copernicus sy'n cario'r dydd.

Gwelodd yr awdurdodau eglwysig y llyfr fel ymosodiad ar y Pab Urbanus VIII ac yn erbyn dysgeidiaeth uniongred yr Eglwys Gatholig, felly yn 1633 gorfodwyd Galileo i sefyll ei brawf gan y Chwilys. Fe'i dyfarnwyd yn euog o heresi, a dedfrwyd ef i arestiad tŷ, lle bu hyd ei farwolaeth yn 1642. Rhoddwyd y Diologo ar Index Librorum Prohibitorum ("Rhestr o Lyfrau Gwaharddedig"), lle y bu hyd 1835.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The trial of Galileo: a Chronology". UMKC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-05. Cyrchwyd 5 Awst 2023.
  2. Arthur Koestler, The Sleepwalkers: A History of Man's Changing Vision of the Universe (1959), Penguin Books, 1986 edition: ISBN 0-14-055212-X, 978014055212X 1990 reprint: ISBN 0-14-019246-8, ISBN 978-0-14-019246-9 (Saesneg)

Dolenni allanol golygu