Dueglys twyllodrus

rhywogaeth o blanhigyn; math o lysiau’r afu
Dueglys twyllodrus
Adelanthus decipiens
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Adelanthaceae
Genws: Adelanthus
Rhywogaeth: A. decipiens
Enw deuenwol
Adelanthus decipiens

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Dueglys twyllodrus (enw gwyddonol: Adelanthus decipiens; enw Saesneg: deceptive featherwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida. Mae'n blanhigyn prin iawn.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Ngwynedd.[1]

Disgrifiad golygu

Ceir sbrigau bychan tua 3 cm, a'u lled yn 3mm. Mae'n clustogau'n sgleiniog, yn ddu, gwyrdd neu weithiau'n hynod o dywyll. Mewn maint, mae'nt yn debyg i rywogaethau o'r grŵp Plagiochila, ond mae eu dail yn geugrwm, a dwy ddant bychan arnynt. Mae'r dail oddeutu 2 mm o led, gyda'r dail agosaf at y pigyn yn nes at ei gilydd.[2]

Cynefin golygu

Mae'r Dueglys twyllodrus i'w chanfod mewn coetiroedd llaith, ar ochr boncyffion. Yn aml, mae'n tyfu ar lethrau carregog (mewn coetiroedd).

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[3] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Dueglys twyllodrus gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. species.nbnatlas.org; adalwyd 2 Mai 2019.
  2. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 2 Mai 2019.
  3. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.