Dwyrain Glasgow (etholaeth seneddol y DU)

Mae Dwyrain Glasgow yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, a cheir cyfanswm o 7 etholaeth o fewn ardal Cyngor Glasgow. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dinas Glasgow ac yn cynnwys y maestrefi Baillieston, Carmyle, Easterhouse, Parkhead, Shettleston a Tollcross. Mae'n cael ei chydnabod fel etholaeth nodedig gan fod pleidlais y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr mor eithriadol isel (dan 5%).

Dwyrain Glasgow
Etholaeth Bwrdeisdref
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Glasgow yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolDavid Linden SNP
Nifer yr aelodau1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

O'r 1930au, roedd yr etholaeth yn cael ei chydnabod fel un o'r rhai saffaf ym meddiant y Blaid Lafur.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Natalie McGarry, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, David Linden (hefyd o'r SNP) a ymladdodd y sedd, gan ddod yn fuddugol. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|