Mae Earthjustice (a elwid yn wreiddiol yn Sierra Club Legal Defense Fund) yn sefydliad nid-er-elw wedi'i leoli yn yr Unol Daleithiau ac sy'n ymroddedig i gyfreitha materion amgylcheddol. Gyda'i bencadlys yn San Francisco, mae ganddo 14 o swyddfeydd rhanbarthol yn yr Unol Daleithiau, rhaglen ryngwladol, staff, a thîm polisi a deddfwriaeth yn Washington, DC.[1]

Earthjustice
Enghraifft o'r canlynolsefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1971 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad 501(c)(3) Edit this on Wikidata
PencadlysSan Francisco Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.earthjustice.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y sefydliad golygu

Sefydlwyd y sefydliad ym 1971 fel Cronfa Amddiffyn Cyfreithiol Sierra Club, er ei fod yn gwbl annibynnol ar y Sierra Club. Newidiodd ei enw i Earthjustice ym 1997 i adlewyrchu ei rôl fel eiriolwr cyfreithiol yn cynrychioli cannoedd o sefydliadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn well. Fe'i cofrestrwyd fel public interest organization yn UDA, y math agosaf at yr hyn a elwir yn elusen yng Nghymru.

O fis Medi 2018, mae'r grŵp wedi darparu cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim i fwy na 1,000 o gleientiaid yn amrywio o'r Sierra Club, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), a Chymdeithas yr Ysgyfaint America i grwpiau llai ar draws y byd, megis Cymdeithas Cimychiaid Maine a Chyfeillion y Bytholwyrdd (<i>Friends of the Everglades</i>).[2]

Fel a nodwyd, mae'n sefydliad di-elw ac nid yw'n codi tâl ar unrhyw un o'i gleientiaid am eu gwasanaeth. Daw cyllid ar gyfer y sefydliad o roddion a sefydliadau unigol. Nid yw'n derbyn unrhyw gyllid gan gorfforaethau na llywodraethau'r byd. Yn 2021, roedd gan Earthjustice $154 miliwn mewn cyfanswm refeniw a $100 miliwn mewn cyfanswm gwariant yn eu cyllideb.[3] O 2021 ymlaen, roedd gan Earthjustice staff amser llawn o tua 170 o gyfreithwyr[4] mewn 14 swyddfa ar draws yr Unol Daleithiau, a 14 o lobïwyr er budd i'r cyhoedd,[5] wedi'u lleoli yn Washington, DC. Ar unrhyw bwynt mewn amser, mae ganddynt tua 630 o achosion cyfreithiol ar gyfartaledd.[6] Llywydd presennol Earthjustice yw Abigail Dillen, twrne amgylcheddol a ymunodd ag Earthjustice yn 2000 ac a fu gynt yn Is-lywydd Ymgyfreitha ar gyfer Hinsawdd ac Ynni.[7][8]

Cydnabyddiaeth golygu

Yn 2001, enwodd y cylchgrawn Worth, a anelwyd at Americanwyr incwm uchel, Earthjustice fel un o 100 elusen orau America.[9]

Ers Ebrill 1, 2009, mae Charity Navigator wedi rhoi 4 seren i Earthjustice, sgôr uchaf y grŵp goruchwylio.[10]

Yn Rhagfyr 2014, cafodd y sefydliad ei gydnabod am ei linell dda "Oherwydd bod angen cyfreithiwr da ar y Ddaear", [11] a ddewiswyd mewn cystadleuaeth ar-lein yn 2009 fel un o'r llinellau tag dielw gorau allan o 1,702. 

Llyfryddiaeth golygu

  • Tom Turner, gyda ffotograffau gan Carr Clifton, Wild by Law: Cronfa Amddiffyn Cyfreithiol Sierra Club a’r Lleoedd y Mae Wedi’u Hachub (San Francisco: Cronfa Amddiffyn Cyfreithiol Sierra Club a Sierra Club Books, 1990)ISBN 0-87156-627-3
  • Tom Turner, Cyfiawnder ar y Ddaear: Earthjustice a'r bobl y mae wedi'u gwasanaethu (White River Junction, VT: Chelsea Green Publishing Co., 2002)ISBN 1-931498-31-8

Cyfeiriadau golygu

  1. "Offices". 25 October 2019.
  2. Earthjustice Clients and Coalitions
  3. Earthjustice Financial Statements
  4. Earthjustice litigation staff
  5. Earthjustice Policy & Legislation staff
  6. Earthjustice: Our Work
  7. "Abigail Dillen". Earthjustice (yn Saesneg). 2010-04-08. Cyrchwyd 2021-05-17.
  8. "People: Dillen named new president of Earthjustice." InsideEPA. 28 June 2018. Retrieved 30 September 2018.
  9. "WORTH Magazine Names America's 100 Best Charities - and Highlights 12 Worth Avoidng". Business Wire. 29 November 2001. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 13 January 2016.
  10. "Charity Navigator - Historical Ratings for Earthjustice". Charity Navigator. Cyrchwyd 2019-12-18.
  11. Fritz, Joanne (6 December 2014). "Nonprofit Taglines and Mission Statements". Nonprofit.about.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-02. Cyrchwyd 13 January 2016.

Dolenni allanol golygu