Edeulys blewddail

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Edeulys blewddail
Blepharostoma trichophyllum

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Pseudolepicoleaceae
Genws: Blepharostoma
Rhywogaeth: B. trichophyllum
Enw deuenwol
Blepharostoma trichophyllum

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys blewddail (enw gwyddonol: Blepharostoma trichophyllum; enw Saesneg: hairy threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd Lloegr, yr Alban ac arfordir Iwerddon.

Disgrifiad golygu

Mae'r Edeulys blewddail yn wyrdd golau, llachar gyda choesynnau main main, sy'n llai na 0.5 mm mewn diametr, gyda tri neu bedwar o ddail.

Ychydig iawn o lysiau'r afu Prydeinig sydd mor fain â'r Edeulys blewddail (B. trichophyllum), ac nid oes gan yr un arall y math cordeddog yma o goesynnau a bysedd main sy'n lledaenu ar yr wyneb. Mae'r dail yma, sy'n lledaenu, yn rhoi ymddangosiad blewog iddo; dim ond yn y Gwlanlys hardd (Trichocolea tomentella) y ceir hyn, ond mae hwnnw'n blanhigyn llawer mwy.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Edeulys blewddail gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.