Edeulys llabedog
Edeulys llabedog Cephaloziella integerrima | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Cephaloziellaceae |
Genws: | Cephaloziella |
Rhywogaeth: | C. integerrima |
Enw deuenwol | |
Cephaloziella integerrima |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Edeulys llabedog (enw gwyddonol: Cephaloziella integerrima; enw Saesneg: lobed threadwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw'r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, ond mae ar gael yng Nghernyw.
Disgrifiad golygu
Hwn yw un o'r rhywogaethau lleiaf o fewn y genws Cephaloziella,. Mae'n eitha tebyg i'r Edeulys cyfan (C. calyculata), ac mae gan y ddau deilflaguryn (gemma) tebyg i'w gilydd, oddigerth i'r ffaith fod Edeulys cyfan ychydig yn fwy, a heb rannau coch / browngoch arnynt.
Cynefin golygu
Mae pob un yn tyfu mewn hen safleoedd mwyngloddiau metelaidd, ar bridd braidd yn denau dros hen rwbel mwyngloddio sy'n aml wedi'i halogi gan gopr.
Llysiau'r afu golygu
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.