Edmund Ignatius Rice
Edmund Ignatius Rice (1 Mehefin 1762 - 29 Awst 1844) oedd sylfaenwr Catholig y Brodyr Cristnogol.
Edmund Ignatius Rice | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1762 Callan, Swydd Kilkenny |
Bu farw | 29 Awst 1844 Port Láirge |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Galwedigaeth | addysgwr |
Dydd gŵyl | 5 Mai |
Gwefan | http://www.edmundrice.org.au/CBOceania/home |
Bywyd Cynnar golygu
Cafodd Rice ei eni ym 1762, yng Nghallan, Waterford, Iwerddon. Am nad oedd Gwyddelod Catholig yn medru cael addysg Gatholig ar y pryd (oherwydd y "Ddeddf Gosbol" Brydeinig), cafodd Rice ei addysgu gan offeiriaid Catholig yn y cartref teuluol.
Priododd Mary Elliott tua 1786, ond bu farw Mary mewn damwain wrth farchogaeth yn fuan ar ôl eu priodas.
Cynulleidfa y Brodyr Cristnogol golygu
Ar ôl marwolaeth Mary, ystyriodd symud i Rufain i ymuno ag Awstiniaid, ond roedd ei gyfeillion wedi ei argyhoeddi i helpu pobl tlawd Iwerddon. Agorodd ei ysgol gyntaf ar gyfer bechgyn yn stabl ceffylau dau lawr, yn New Street, Waterford, ym 1802. Ym 1808, sylfaenwyd urdd "Brodyr y Cyflwyniad" (yn Saesneg, "Presentation Brothers") ganddo i addysgu bechgyn Catholig difreintiedig. Agorodd ei urdd lawer o ysgolion dros Iwerddon, a thros y byd hefyd ar ôl marwolaeth Edmund Rice.
Ei farwolaeth a'i gysegru'n sant golygu
Bu farw Rice ar 29 Awst, 1844, ym Mount Sion, Waterford. Yn ystod ei fywyd galwai pobl Waterford Edmund Rice y “Sant sy'n Cerdded”. Ym 1996, datganodd Pab Ioan Pawl II fod Edmund Rice yn Beatus, y cam cyntaf cyn dod yn sant yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig.