Edward Robert Hughes
Arlunydd oedd Edward Robert Hughes RWS (5 Tachwedd 1851 – 23 Ebrill 1914) a weithiai gan mwyaf gyda'r cyfrwng dyfrlliw a gouache. Dylanwadwyd arno gan ei ewyrth, y Cyn-Raffaëliad Arthur Hughes. Roedd symboliaeth yn chwarae rhan bwysig yn ei luniau yn ogystal ag ei astudiaeth fanwl o fyd natur, techneg a amlygir yng ngwaith y Cyn-Raffaëliaid; chwaraeai esthetigaeth hefyd ran flaenllaw yn ei waith. Caiff ei adnabod yn bennaf am ei luniau Midsummer Eve a Night With Her Train of Stars ond ei fara beunyddiol o ddydd i ddydd oedd portreadau o Saeson dosbarth canol.[1]
-
Heart of Snow
-
Night with her Train of Stars
-
Oh, What's That in the Hollow...?
Edward Robert Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 5 Tachwedd 1851 Llundain |
Bu farw | 23 Ebrill 1914 St Albans |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd |
Ymhlith y lluniau a greodd ar y cyd â Hunt y mae The Light of the World a The Lady of Shalott.
Y dyddiau cynnar golygu
Astudiodd yn Heatherley, Llundain ac yna yn 1868 fe'i derbyniwyd fel myfyriwr i'r Academi Gelf Frenhinol.[2]
Gyrfa golygu
Bu Hughes yn brentis i arlunwyr fel Edward Burne-Jones, a William Holman Hunt am rai blynyddoedd gan ei gynorthwyo i baentio lluniau fel The Light of the World, sydd heddiw'n hongian yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain.
Arddangosodd ei waith yn Dudley Museum and Art Gallery, Grosvenor Gallery, New Gallery, Royal Academy of Arts, a thua diwedd ei yrfa arddangosodd ei waith gyda The Royal Society of Painters in Water Colours (RWS).[3]
Dyweddiodd gyda merch George Macdonald ychydig cyn iddi farw.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Osborne, Victoria Jean (Hydref 2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). JStor: The University of Birmingham. t. 17.
- ↑ Osborne, Victoria Jean (2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). Project Muse: The University of Birmingham. t. 11.
- ↑ Osborne, Victoria Jean (October 2009). A British Symbolist in Pre-Raphaelite Circles: Edward Robert Hughes RWS (1851-1914). Jstor: The University of Birmingham. t. 1.