Mae'r effaith Thatcher yn ffenomen lle mae'n fwy anodd canfod mân newidiadau lleol mewn wyneb wyneb-i-waered, er bod yr union un newidiadau yn amlwg pan mae'r wyneb wedi'i gyfeirio'n gywir. Fe'i henwir ar ôl y prif weinidog Prydeinig Margaret Thatcher oherwydd dangoswyd yr effaith gyntaf ar ffotograff ohoni. Crëwyd yr effaith yn wreiddiol ym 1980 gan Peter Thompson, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Efrog.[1]

Yr effaith Thatcher a ddangosir fan hyn ar ffotograff o Margaret Thatcher

Trosolwg golygu

Dangosir yr effaith gan ddau lun sy'n unfath yn wreiddiol,[2] wedi'u troi'n wyneb-i-waered. Mae'r ail lun yn cael ei newid yn amlwg fel bod y llygaid a'r geg wedi eu fflipio'n fertigol. Nid yw'r newidiadau yn amlwg ar unwaith, ond maent yn hollol amlwg pan gaiff y ddelwedd ei gweld mewn cyfeiriadedd arferol.

Credir bod hyn oherwydd bod modiwlau gwybyddol seicolegol penodol sy'n ymwneud â chanfod wynebau wedi'u tiwnio'n arbennig i wynebau yn y cyfeiriadedd unionsyth. Mae wynebau'n ymddangos yn unigryw i ni er eu bod mewn gwirionedd yn debyg iawn. Damcaniaethwyd ein bod wedi datblygu prosesau penodol i wahaniaethu rhwng wynebau, ac maent yn dibynnu cymaint ar y ffurfweddiad (y berthynas strwythurol rhwng nodweddion unigol ar yr wyneb) â manylion y nodweddion unigol hyn, fel y llygaid, y trwyn a'r geg.

Mae tystiolaeth bod gan fwncïod rhesws[3][4] yn ogystal â tsimpansïaid (Weldon et al., 2013) profiad o effaith Thatcher. Mae hwn yn codi'r posibilrwydd y gallai rhai mecanweithiau ymennydd sy'n ymwneud â phrosesu wynebau fod wedi esblygu mewn rhyw gyndaid cyffredin mwy na 30 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae egwyddorion sylfaenol effaith Thatcher ar gyfer canfyddiad wynebau hefyd wedi'u yn briodol ar gyfer symudiad biolegol. Mae'n anodd iawn, neu bron yn amhosib, canfod pan mae dotiau unigol symudol wedi'i gwrthdroi, pan mae'r holl ddelwedd wyneb-i-waered.[5]

Ymchwiliadau pellach golygu

Mae effaith Thatcher hefyd wedi bod yn ddefnyddiol wrth ymchwilio i seicoleg adnabod wynebau. Fel arfer mae arbrofion sy'n defnyddio effaith Thatcher yn edrych ar yr amser y mae'n cymryd i weld y nodweddion anghyson naill ai'n unionsyth neu'n wyneb-i-waered.[6] Defnyddiwyd mesurau o'r fath i ddarganfod natur prosesu delweddau wynebau cyfannol.[7]

Trwy astudio delweddau ar onglau rhwng unionsyth a wyneb-i-waered, mae astudiaethau wedi archwilio os yw'r effaith yn ymddangos yn raddol neu'n sydyn.[8][9] Ym mhob grŵp y profir am effaith, mae'r effaith wedi cael ei arsylwi. Mae gan blant profiad o'r effaith,[10] ynghyd â phlant gydag awtistiaeth,[11] a hyd yn oed pobl sydd â prosopagnosia neu wynebddallineb.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. Thompson, P. (1980). "Margaret Thatcher: a new illusion". Perception 9: 483–484. doi:10.1068/p090483. PMID 6999452. http://eprints.whiterose.ac.uk/115530/1/thatcher1980.pdf.
  2. "Reading Upside-down Lips". faculty.ucr.edu. Cyrchwyd 11 April 2013.
  3. Adachi Ikuma, Chou Dina P., Hampton Robert R. 'Thatcher Effect in Monkeys Demonstrates Conservation of Face Perception across Primates', Current Biology 2009, 19, 1270–1273
  4. Dahl Christoph D, Logothetis Nikos K, Bülthoff Heinrich H, Wallraven Christian 'The Thatcher illusion in humans and monkeys', Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences, 2010, 277 (1696)
  5. Mirenzi A, Hiris E, 2011, "The Thatcher effect in biological motion" Perception 40(10) 1257 – 1260
  6. Sjoberg, W., & Windes, J. D. (1992)
  7. Lewis, M.B. & Johnston, R.A. (1997). The Thatcher Illusion as a test of configural disruption. Perception, 26, 225-227.
  8. Stuerzel, F., & Spillmann, L. (2000). Thatcher illusion: dependence on angle of rotation. Perception, 29(8), 937-942.
  9. Lewis, M. B. (2001). The lady's not for turning: Rotation of the Thatcher illusion. Perception, 30(6), 769-774.
  10. M.B. Lewis, "Thatcher’s children: Development and the Thatcher illusion", Perception 32 (2003), tt.1415-1421.
  11. Rouse, H., Donnelly, N., Hadwin, J. A., & Brown, T. (2004). Do children with autism perceive second-order relational features? The case of the Thatcher illusion. Journal of Child Psychology and Psychiatry|J Child Psychol Psychiatry, 45(7), 1246-1257.
  12. Carbon, C. C., Grüter, T., Weber, J. E., & Lueschow, A. (2007). Faces as objects of non-expertise: Processing of Thatcherised faces in congenital prosopagnosia. Perception, 36(11), 1635-1645.