Effaith ffotodrydanol

Yr effaith ffotodrydanol yw allyriad electronau pan fydd ymbelydredd electromagnetig, fel golau, yn taro deunydd. Gelwir electronau a allyrrir yn y modd hwn yn ffotoelectronau. Astudir y ffenomen mewn ffiseg mater cyddwys, a chemeg cwantwm a chyflwr-solet, i ddod i gasgliadau am briodweddau atomau, moleciwlau a solidau. Cymhwysir yr effaith mewn dyfeisiau electronig sy'n arbenigo mewn canfod golau ac allyriadau electronau wedi'u hamseru'n fanwl gywir.

Effaith ffotodrydanol
Enghraifft o'r canlynolffenomen ffisegol, egwyddor Edit this on Wikidata
Yn cynnwysffotoelectron Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Mae electronau mewn metel yn rhydd ond mae yna rymoedd electrostatig yn glynu nhw i'r metel. Er mwyn i'r electronau ddianc mae'n rhaid iddynt weithio yn erbyn y grymoedd atynnol hyn. I wneud hyn mae angen y cyfanswm gywir o egni.

Ffwythiant gwaith- Ф yw'r swm o egni minimwm sydd angen i electron i fedru dianc o arwyneb y metel.

Darganfodd Albert Einstein bod un ffoton yn medru taro electron mewn arwyneb metel. Os yw'r egni ffoton yn hafal a'r ffwythiant gwaith sef yr egni minimwm, mae egni'r ffoton yn cael ei drosglwyddo i'r electron i'r electron ddianc i'r arwyneb. Wrth i'r electron cyrraedd yr arwyneb, mae'r holl egni wedi cael ei drosglwyddo i'r electron ac nid yw'n bodoli mwyach.

Sefyllfaoedd Gwahanol golygu

Pan mae Egni'r ffoton yn hafal i'r ffwythiant gwaith golygu

  • Mae egni'r ffoton yn ddigon i allyrru'r electron i arwyneb y metel.
  • Nid oes gan y ffoton egni cinetig.
  • Mae amledd y ffoton ar ei finimwm, gelwir hyn yn amledd trothwy- f0.
 

Pan mae Egni'r ffoton yn fwy na'r ffwythiant gwaith golygu

  • Mae gan y ffoton digon o egni i achosi allyriad.
  • Mae'r ffotoelectron yn dianc gyda gweddill egni'r ffoton yn cael ei drosglwyddo i egni cinetig.
  • Gelwir yr egni cinetig sydd ar ôl yn EKmacs.
 

Pan mae'r Egni ffoton yn llai na'r ffwythiant gwaith golygu

  • Nid oes yna digon o egni i allyrru electron.
  • Amledd y ffoton yn llai na'r amledd trothwy- f0.