Tarddiad yr enw effaith hydra, neu'r paradocs hydra, yw chwedl Roegaidd yr Hydra Lernaean, anifail mytholegol a dyfodd ddau ben ar gyfer pob un a dorrwyd i ffwrdd. Defnyddir y term yn ffigurol ar gyfer effeithiau gwrth-reddfol gweithredoedd sydd a'r nod o leihau problem ond sy'n arwain at ysgogi cynyddu'r broblem. Yn fwyaf nodedig, mae gwyddonwyr wedi cynnig y gall systemau ecolegol arddangos effaith hydra pan fydd "cyfradd marwolaeth uwch mewn rhywogaeth benodol yn y pen drawn yn cynyddu maint ei phoblogaeth". Awgrymir bod gan y rhagdybiaeth oblygiadau ar gyfer dileu plâu a rheoli adnoddau. Dywedir hefyd fod arwyddion y gall gostwng y gyfradd marwolaeth grebachu maint poblogaeth.[1]

Y creadur Hydra chwedlonol

Defnyddiwyd yr effaith hydra hefyd am ganlyniadau negyddol wrth gau safleoedd torrent, lle wrth gau un safle bydd llawer mwy yn codi yn ei le mewn gwahanol ymgnawdoliadau. Caiff yr effaith hydra ei dyfynnu hefyd gan y rhai sy'n gwrthwynebu'r rhyfel ar gyffuriau ac lofruddiaethau wedi'u targedu fel effeithiau gwrthgynhyrchiol.[2][3][4] Yn 2016 caeodd y safle Torrentz i lawr heb unrhyw wybodaeth. Fodd bynnag, o fewn pythefnos, adeiladwyd 3 safle torrent arall yn lle Torrentz, sy'n enghraifft berffaith o'r effaith hydra.[5] Yn yr un modd, ar ôl cau'r gwefan torrent The Pirate Bay ym mis Rhagfyr 2014, cafodd ei disodli gan gannoedd o gopïau o fewn wythnos.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Abrams, Peter (27 May 2015). "Hydra paradox: When culling animals makes them thrive". New Scientist.
  2. Clark, Liat. "Shutting down huge pirate sites has no 'positive effect'". Wired UK. Cyrchwyd 26 Mehefin 2015.
  3. Blum, Gabriella and Philip Heymann (Mehefin 2010). "Law and Policy of Targeted Killing". Harvard National Security Journal 1: 165. http://harvardnsj.org/wp-content/uploads/2010/06/Vol-1_Blum-Heymann_Final.pdf. Adalwyd 11 Chwefror 2013.
  4. Elias Garcia (4 September 2014). "The Hydra Effect and the War on Drugs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-24. Cyrchwyd 23 Mai 2015.
  5. Van der Sar, Ernesto. "Torrentz Remains Down, But The Clone Wars Are On". TorrentFreak.
  6. Ernesto (27 December 2014). "Hundreds of Pirate Bay Copies Emerge, Is The Hydra Alive?". Cyrchwyd 23 Mai 2015.