Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl

cadeirlan Gatholig yn Lerpwl

Eglwys Gadeiriol Gatholig yn Lerpwl yw Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl. Fe'i dyluniwyd yn gan y Pensaer Frederick Gibberd ac fe'i adeiladwyd rhwng 1962 ac 1967. Mae'n enghraifft neilltuol o eglwys fodern.

Eglwys Gadeiriol Fetropolitaidd Lerpwl
Matheglwys gadeiriol Gatholig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1962 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Lerpwl Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.4047°N 2.9689°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ3569490204 Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolPensaernïaeth Fodern Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iCrist y Brenin Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddbricsen Edit this on Wikidata
EsgobaethArchesgobaeth Lerpwl Edit this on Wikidata

Penodwyd Gibberd i adeiladu'r eglwys yn dilyn cystadleuaeth yn 1959. Adeiladwyd yr eglwys ar ben crypt a adeiladwyd yn gynharach yn ynol â dyluniad ar gyfer eglwys gan Edwin Lutyens yn y 1930au. Dechreuwyd adeiladu eglwys Lutyens – a fyddai wedi bod yn ail eglwys fwya'r byd - yn 1933, ond oedwyd yr adeiladu gan yr Ail Ryfel Byd. Ailgafaelwyd yn y gwaith ar ôl y rhyfel, fodd bynnag canslwyd y cynllun yn 1958 yn sgil costau cynyddol gyda'r crypt yn unig wedi'i gwblhau.[1]

Un o brif ystyriaethau cynllun Gibberd oedd adeiladu'r eglwys yn rhad ac yn gyflym. Defnyddiwyd deunyddiau cyfoes wrth adeiladu: concrit yw'r prif ddeunydd a ddefnyddiwyd ar gyfer y strwythur, ac roedd y to gwreiddiol o alwminiwm ysgafn. Cafwyd problemau strwythurol yn fuan ar ôl cwblhau'r adeiladu, a rhoddwyd to newydd dur ar yr eglwys yn ystod y 1990au.

Yr eglwys gyda'r hwyr
Tu fewn i'r eglwys

Cyfeiriadau golygu

  1. Edmondson, Rick. "Liverpool Metropolitan Cathedral". Cyrchwyd Gorffennaf 5 2009. Check date values in: |accessdate= (help)