Eglwys Gatholig y Santes Fair, Trefynwy

eglwys Gatholig rhestredig Gradd II yn Nhrefynwy

Caniatäwyd i Babyddion addoli yn Eglwys Gatholig y Santes Fair, Trefynwy, cyn unrhyw le arall yng Nghymru. Fe'i lleolwyd yng nghanol y dre yn Sir Fynwy de-ddwyrain Cymru. Codwyd yr adeilad yn 1793; erys rhan yn unig, bellach, sef yr ochr ddwyreiniol.[1] Ychwanegwyd ato'n sylweddol yn Oes Victoria gan y pensaer Benjamin Bucknall.[1]

Eglwys Gatholig y Santes Fair
Matheglwys Gatholig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1793 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr23.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.812451°N 2.713036°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethArchesgobaeth Caerdydd Edit this on Wikidata

Penodwyd yr eglwys yn Awst 1974 fel adeilad rhestredig Gradd II.[2]

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire (Penguin Books, 2000), t.398
  2. Church of St. Mary R C, Monmouth, Listed Buildings; adalwyd Ionawr 2012
  3. Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail (n.d.), t.19