Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1867

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1867 yng Nghaerfyrddin ar 3-6 Medi 1867, o ddydd Mawrth i ddydd Wener.[1]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1867
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1867 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Milflwyddiant". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a'r beirniaid oedd Caledfryn a Cynddelw. Nid oedd y ddau yn gallu cytuno ar enillydd rhwng dwy awdl ddaeth i'r brig, felly trosglwyddwyd y penderfyniad at Ceiriog i dorri'r ddadl; penderfynodd mai 'Samuel Hopkins' oedd yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd y Parch Richard Parry (Gwalchmai). Nid oedd yn bresennol felly cadeiriwyd ei gynrychiolydd Mr J.P. Williams.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
  2. "YREISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN NGHAERFYRDDIN MEDI 3 4 5 a 6 - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1867-09-07. Cyrchwyd 2017-03-17.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.