Prydyddes o Ynys Môn oedd Elen Gwdman (fl. 1609). Ychydig iawn a wyddys amdani. Tybir ei bod yn perthyn i is-gangen o deulu'r Woods o ardal Tal-y-llyn, yng ngogledd-orllewin Môn.[1] Mae hi'n enghraifft brin o fardd o ferch yn y cyfnod modern cynnar.

Elen Gwdman
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Dim ond un gerdd ganddi sydd wedi goroesi, ond mae ei chrefft sicr yn dangos bod Elen yn arfer cyfansoddi barddoniaeth. Anghyffredin iawn hefyd yw testun y gerdd, sy'n gân serch ddi-flewyn ar dafod i ddyn ifanc o'r enw Edward Wyn (m. 1637) o Fodewryd. Ymddengys fod Edward yn rhy fonheddig i ferch o statws cymdeithasol Elen ac aflwyddiannus fu ei charwriaeth. Cwyna Elen am ei anffawd ar ôl i Edward orfod priodi merch arall oedd yn gymar mwy addas iddo.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Unig gerdd Elen Gwdman: Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, cyf.1 (Cyhoeddiadau Barddas, 1993), cerdd 9.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, Cyfrol I (Cyhoeddiadau Barddas, 1993).