Clerigwr o Wynedd oedd Elfodd (m. 809). Ffurf arall ar ei enw yw Elfoddw (Lladin Elbodug). Roedd yr hanesydd Cymreig cynnar Nennius yn ei edmygu.[1] Mae'n bosibl ei fod yn aelod o'r clas (mynachlog gynnar) yng Nghaergybi.[2]

Elfodd
Ganwyd8 g Edit this on Wikidata
Bu farw809 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Yn ôl traddodiad cafodd ei urddo'n Esgob Bangor yn 755, ond mae haneswyr yn amheus am ddilysrwydd hynny. Mae'r enw 'archiescopus Guenedotae' yn amwys hefyd. Serch hynny mae'n bur debyg y medrwn ei gyfri fel un o esgobion cynnar Bangor gan fod tir yr esgobaeth honno'n cyfateb i diriogaeth teyrnas Gwynedd fwy neu lai. Caradog ap Meirion (730? - 798?) oedd brenin Gwynedd yn amser Elfodd.[2]

Rhoes Elfodd arweiniad pwysig i'r eglwys gynnar yng Nghymru, a oedd yr olaf o'r Eglwysi Celtaidd i glymu wrth yr hen system o ddyddio'r Pasg, trwy fabwysiadu'r dull Rhufeinig o wneud hynny.[2] Digwyddodd hynny yn 768 yn ôl yr Annales Cambriae.[1]

Roedd Nennius yn galw ei hun yn ddisgybl i Elfodd - "Ego Nennius Elvodugi disciplus" - ac yn cyfeirio ato fel 'y mwyaf sanctaidd o'r esgobion oll'.[1]

Ceir cyfeiriaid at ei farwolaeth yn yr Annales Cambriae:

'Elbodug archiescopus Guenedotae regione migravit ad Dominum' (Bu farw - yn llythrennol 'aeth at Dduw' - Elfodd, archesgob rhanbarth Gwynedd)[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 John Morris (gol.), Nennius: British History, and The Welsh Annals (Llundain, 1980).
  2. 2.0 2.1 2.2 Hugh Williams, Christianity in Early Britain (Rhydychen, 1912).