Awdures ac addasydd llyfrau Cymreig ydy Dr Elin Meek. Er iddi ond ddechrau addasu llyfrau i'r Gymraeg yn swyddogol yn 2001,[1] mae eisoes wedi cyhoeddi bron i 160 o lyfrau drwy weithio yn llawrydd.[2]

Elin Meek
Man preswylAbertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, adapter Edit this on Wikidata

Magwyd Elin yng Nghaerfyrddin ac Ystalyfera, mae ei theulu o Geredigion. Mynychodd Ysgol y Dderwen a'r Ysgol Ramadeg i Ferched yng Nghaerfyrddin cyn mynd i astudio Almaeneg a Chymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna hyfforddodd fel athrawes yng Nghaerdydd.[3] Mae'n byw yn Abertawe ar hyn o bryd ac yn gweithio fel darlithydd yn Adran y Gymraeg, Coleg y Drindod, Caerfyrddin.

Caiff ei chomisiynu i addasu llyfrau fel rheol gan gyhoeddwyr megis Gwasg Gomer, Y Lolfa a Dref Wen. Mae ei chyfieithiadau mwyaf nodweddiadol yn cynnwys rhai o lyfrau Roald Dahl ar gyfer Rily Publications.

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau gwreiddiol golygu

Addasiadau golygu

  • Lynda Waterhouse, Dysgu Caru (teitl gwreiddiol: Lovesick), Ebrill 1999 (Gwasg Gomer)
  • Jenny Sullivan, Dwy Droed Chwith (teitl gwreiddiol: Two Left Feet), Mehefin 1999 (Gwasg Gomer)
  • Bettina Paterson, Nadolig Llawen, Hipo Bach (teitl gwreiddiol: Happy Christmas, Little Hippo), Hydref 2001 (Gwasg Gomer)
  • Anthony Masters, Melltith Llyn Brwynog (teitl gwreiddiol: The Curse of the Frozen Loch), Tachwedd 1999 (Gwasg Gomer)
  • Viv French, Bom yn fy Mhen (teitl gwreiddiol: Falling Awake), Tachwedd 2001 (Gwasg Gomer)
  • Chris S. Stephens, Lawr ar Lan y Môr (teitl gwreiddiol: A Seaside Treat), Mehefin 2002 (Gwasg Gomer)
  • Catherine MacPhail, Grym y Garreg (teitl gwreiddiol: A Kind of Magic), Hydref 2002 (Gwasg Gomer)
  • Gary Crew, Yr Hen Dŵr (teitl gwreiddiol: The Water Tower), Mawrth 2003 (Gwasg Gomer)
  • Colin Thompson, Y Tŵr at yr Haul (teitl gwreiddiol: The Tower to the Sun), Ebrill 2003 (Dref Wen)
  • Graham Howells, Diwrnod i'r Dewin (teitl gwreiddiol: Merlin Awakes), Mai 2003 (Gwasg Gomer)
  • Jacqueline Wilson, Yr Anghenfil Dweud Straeon (teitl gwreiddiol: The Monster Story-Teller), Mawrth 2004 (Gwasg Gomer)
  • Jacqueline Wilson, Pecyn Bwyd y Deinosor (teitl gwreiddiol: The Dinosaur's Packed Lunch), Mawrth 2004 (Gwasg Gomer)
  • Siân Lewis, Bili Jones, Seren (teitl gwreiddiol: Billy Jones, Dog Star), Mawrth 2005 (Gwasg Gomer)
  • Julie Rainsbury, Mr Penstrwmbwl a'r Ddraig Fach (teitl gwreiddiol: Mr Barafundle and the Rockdragon), Hydref 2005 (Gwasg Gomer)
  • Jacqueline Wilson, Ffrindiau Gorau (teitl gwreiddiol: Best Friends), Mai 2005 (Gwasg Gomer)
  • Malachy Doyle, Mam-gu Penrhiw a'r Barcud Coch Olaf (teitl gwreiddiol: Granny Sarah and the last Red Kite), Mehefin 2006 (Gwasg Gomer)
  • W. Awdry, Tomos a Persi yn Achub y Dydd (teitl gwreiddiol: Thomas and Percy to the Rescue) Rhagfyr 2006 (Dref Wen)
  • Francesca Simon, Henri Helynt yn Dial (teitl gwreiddiol: Horrid Henry's Revenge), Chwefror 2007 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • (gyda Mererid Hopwood) Laurie Krebs, Mae Pawb yn Mynd ar Saffari (teitl gwreiddiol: We All Went on Safari), Chwefror 2007 (Llyfrau Barefoot Cymru Cyf)
  • Benedict Blathway, Yn y Dref (teitl gwreiddiol: In the Town), Gorffennaf 2007 (Dref Wen)
  • Ian Whybrow, Siwan yn Mynd i Sglefrio (teitl gwreiddiol: Bella Gets her Skates), Medi 2007 (Gwasg Gomer)
  • Francesca Simon, Bom Drewllyd Henri Helynt (teitl gwreiddiol: Horrid Henry's Stinkbomb), Hydref 2007 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Francesca Simon, Pants Henri Helynt (teitl gwreiddiol: Horrid Henry's Underpants), Hydref 2007 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Heather Amery a Stephen Cartwright, Sinderela / Cinderella, Chwefror 2008 (Dref Wen)
  • Francesca Simon, Henri Helynt a'r Llau (teitl gwreiddiol: Horrid Henry's Nits), Mawrth 2008 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Francesca Simon, Henri Helynt yn Twyllo'r Tylwyth Teg (teitl gwreiddiol: Horrid Henry Tricks the Tooth Fairy), Mawrth 2008 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Morris Gleitzman, Merch o dan Ddaear (teitl gwreiddiol: Girl Underground), Mai 2008 (Gwasg Gomer)
  • Roald Dahl, Moddion Rhyfeddol George (teitl gwreiddiol: George's Marvellous Medicine), Ionawr 2009 (Rily)
  • Jenny Oldfield, Ysgol Cŵn Bach (teitl gwreiddiol: Pet School), Chwefror 2009 (Gwasg Gomer)
  • John Townsend, Taro'r Targed (teitl gwreiddiol: Deadline), Chwefror 2009 (Gwasg Gomer)
  • Jacqueline Wilson, Merched Drwg (teitl gwreiddiol: Bad Girls), Mawrth 2009 (Gwasg Gomer)
  • Roald Dahl, Y Crocodeil Anferthol (teitl gwreiddiol: The Enormous Crocodile), Mai 2009 (Rily)
  • Tony Bradman, Y Ddau Jac (teitl gwreiddiol: The Two Jacks), Mehefin 2009 (Gwasg Gomer)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: Tomos, Gorffennaf 2009 (Rily)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: James, Gorffennaf 2009 (Rily)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: Pyrsi, Gorffennaf 2009 (Rily)
  • Roald Dahl, Mr Cadno Campus (teitl gwreiddiol: Fantastic Mr Fox), Medi 2009 (Rily)
  • Julie Bertagna, Arwr y Naid Bynji (teitl gwreiddiol: "Bungee Hero), Medi 2009 (Gwasg Gomer)
  • Alan Durant, Ail-Lwytho'r Game Boy (teitl gwreiddiol: Game Boy Reloaded), Medi 2009 (Gwasg Gomer)
  • Michael Morpurgo, Caeau Fflandrys (teitl gwreiddiol: Private Peaceful), Medi 2009 (Dref Wen)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: Gordon, Tachwedd 2009 (Rily)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: Jeremi, Tachwedd 2009 (Rily)
  • W. Awdry, Tomos a'i Ffrindiau: Tobi, Tachwedd 2009 (Rily)
  • Brian Keaney, Ysgol Jacob (teitl gwreiddiol: Jacob's Ladder), Mai 2010 (Rily)
  • Colin Brake, Dr Who - Dewis dy Dynged: Y Rhyfel Oeraf (teitl gwreiddiol: Dr Who - Decide Your Destiny: The Coldest War), Awst 2010 (Rily)
  • Roald Dahl, Y Twits (teitl gwreiddiol: The Twits), Medi 2010 (Rily)
  • Michael Coleman, Tag (teitl gwreiddiol: Tag), Tachwedd 2010 (Rily)
  • Michael Coleman, Pa Ddewis (teitl gwreiddiol: Going Straight), Ionawr 2011 (Rily)
  • Roald Dahl, Jiráff, a'r Pelican a Fi (teitl gwreiddiol: The Giraffe and the Pelly and Me), Ionawr 2011 (Rily)
  • Jacqueline Wilson, Lowri Angel (teitl gwreiddiol: Vicky Angel), Gorffennaf 2011 (Gwasg Gomer)
  • Morris Gleitzman, Bachgen yn y Môr (teitl gwreiddiol: Boy Overboard), Awst 2011 (Gwasg Gomer)
  • Gwyddoniadur Darluniau Cyntaf i Blant (teitl gwreiddiol: The Usborne First Picture Encyclopedia), Medi 2011 (Rily)
  • Roald Dahl, Danny Pencampwr y Byd (teitl gwreiddiol: Danny the Champion of the World), Hydref 2011 (Rily)
  • Roald Dahl, Nab Wrc (teitl gwreiddiol: Esio Trot), Chwefror 2012 (Rily)
  • Gill Lewis, Gwalch y Nen (teitl gwreiddiol: Sky Hawk), Chwefror 2012 (Rily)
  • Judith Kerr, Mog y Gath Anghofus (teitl gwreiddiol: Mog the Forgetful Cat), Mawrth 2012 (Dref Wen)
  • Richard Walker, Jac a'r Goeden Ffa (teitl gwreiddiol: Jack and the Beanstalk), Ebrill 2012 (Llyfrau Barefoot Cymru Cyf)
  • Jacqueline Wilson, Cyfrinachau (teitl gwreiddiol: Secrets), Mehefin 2012 (Gwasg Gomer)
  • Thomas Bloor, Bechgyn y Bomio (teitl gwreiddiol: Bomber Boys), Gorffennaf 2012 (Barrington Stoke)
  • Tony Bradman, Myrddin, Y Bachgen Arbennig (teitl gwreiddiol: Young Merlin), Gorffennaf 2012 (Barrington Stoke)
  • Malachy Doyle, Melltith Teulu Lambton (teitl gwreiddiol: The Lambton Curse), Gorffennaf 2012 (Barrington Stoke)
  • Roald Dahl, Yr CMM (teitl gwreiddiol: The BFG), Awst 2012 (Rily)
  • Roald Dahl, Y Bys Hud (teitl gwreiddiol: The Magic Finger), Chwefror 2013 (Rily)
  • Roald Dahl, Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr (teitl gwreiddiol: Charlie and the Great Glass Elevator), Chwefror 2013 (Rily)
  • Gill Lewis, Dolffin Gwyn (teitl gwreiddiol: White Dolphin), Chwefror 2013 (Rily)
  • Francesca Simon, Henri Helynt a'r Cefnogwr Pêl-Droed (teitl gwreiddiol: Horrid Henry and the Football Fiend), Mawrth 2013 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Francesca Simon, Henri Helynt a'r Dyn Eira Erchyll (teitl gwreiddiol: Horrid Henry and the Abominable Snowman), Mawrth 2013 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Jacqueline Wilson, Candi-Fflos (teitl gwreiddiol: Candyfloss), Mai 2013 (Gwasg Gomer)
  • Francesca Simon, Henri Helynt a Melltith y Mymi (teitl gwreiddiol: Horrid Henry and the Mummy's Curse), Hydref 2013 (Canolfan Astudiaethau Addysg)
  • Roald Dahl, Charlie a'r Ffatri Siocled (teitl gwreiddiol: Charlie and the Chocolate Factory), Ebrill 2017 (Rily)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Proffil ar wefan 'Y Fasnach Lyfrau Ar-lein'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2007-12-06.
  2. Gwales.com
  3. "Proffil ar wefan y Lolfa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-11-13. Cyrchwyd 2007-12-06.

Dolenni allanol golygu