Elinor Lyon
awdures
Roedd Elinor Bruce Lyon (17 Awst 1921 – 28 Mai 2008 yn awdures Seisnig a oedd yn byw yng Nghymru.[1][2]
Elinor Lyon | |
---|---|
Ganwyd | 17 Awst 1921 |
Bu farw | 28 Mai 2008 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Cafodd Lyon ei geni yn Guisborough, Swydd Efrog, yn ferch yr athro a bardd P. H. B. Lyon a'i wraig. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol San Siôr, Caeredin, a'r Ysgol Headington, Rhydychen. Yn ddiweddarach, astudiodd yn Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen. Priododd Peter Wright, athro yn yr Ysgol Rugby. Bu iddynt ddau fab a dwy ferch.
Fe symudon nhw i Harlech ym 1975 pan ymddeolodd Wright. Ysgrifennodd Lyon ugain llyfr i blant. Bu farw ei gŵr ym 1996.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "Elinor Lyon: Author of 'camping and tramping' adventure tales peopled with feisty, fearless girls and boys". The Independent (yn Saesneg). 23 Hydref 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.
- ↑ Julia Eccleshare (24 Mehefin 2008). "Elinor Lyon". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Ionawr 2021.