Ardal o Ynys Sheppey yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, ydy Elmley. Yn y gorffennol roedd pentref Elmley yn sefyll yn yr ardal, ond dim ond un fferm sydd ar ôl heddiw.

Elmley
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Swale
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.3909°N 0.7756°E Edit this on Wikidata
Cod OSTQ932694 Edit this on Wikidata
Map

Roedd gan bentref Elmley boblogaeth o tua 200 o bobl ar ddiwedd y 19g. Roedd yn cynnwys gweithfa sment, sef prif gyflogwr yr ardal, yn ogystal ag ysgol, eglwys, tafarn a 30 o dai. Dirywiodd y pentref ar ôl i'r gwaithfa sment gau ym 1902. Caeodd yr ysgol yn y 1920au a dymchwelwyd yr eglwys yn y 1960au.[1]

Yn y 1970au sefydlwyd cronfa adar o 3,250 erw (13.2 km2) ar y corsydd – un o'r mwyaf yn Lloegr. Mae'n ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Elmley, sy'n eiddo ac yn cael ei reoli gan Elmley Conservation Trust.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. John Rymill, The Three Sheppey Islands in the 19th and 20th Centuries (Tonbridge, 2006)
  2. Gwefan Gwarchodfa Natur Elmley; adalwyd 14 Mai 2018
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato