Enrico Stennett

actifydd cydberthynas hiliol, dyn busnes, dawnsiwr

Ymgyrchydd dros gydraddoldeb hil oedd Enrico A. Stennett (9 Hydref 19267 Gorffennaf 2011). Cafodd ei eni ym mhentref Maroon Town ger Bae Montego, Jamaica, ar 9 Hydref 1926. Fel plentyn o hil gymysg, fe wynebodd atgasedd a dioddefaint cyn ei fod wedi cyrraedd blynyddoedd ei arddegau.[1] Croesodd Gefnfor yr Iwerydd ar fwrdd HMT Empire Windrush pan oedd yn 21 oed ym 1947. Ymunodd â'r 'League of Coloured People' yn fuan wedi cyrraedd gwledydd Prydain, gan ddechrau oes o ymgyrchu dros gydraddoldeb hil ac yn erbyn hiliaeth systemig.

Enrico Stennett
Ganwyd9 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Maroon Town Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 2011 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Galwedigaethdawnsiwr, person busnes, ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Priododd ei wraig gyntaf, Margaret, yn y blynyddoedd ar ôl cyrraedd a sefydlodd y ddau, ynghyd â'u cyfaill Iddewig Stanley Freeman, y 'Cosmopolitan Social Society' ym 1950.[2] Pan ddaeth y gymdeithas honno i ben yn 1952, sefydlodd Stennett yr 'African League'. Bu hefyd yn allweddol yn sefydlu'r papur newydd The African Voice - papur newydd cyntaf y gymuned ddu yng ngwledydd Prydain.[3]

Roedd Stennett yn ddawnsiwr talentog, a gwnaed ffilm amdano o'r enw Mr Magic Feet a gynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr cerdd o Jamaica Julian Henriques i'r BBC ym 1987.[4]

Dychwelodd Stennett i Jamaica gyda'i ail wraig, Mary, wedi iddo ymddeol. Wedi cyfnod yno, dychwelodd i ynysoedd Prydain eto, y tro hwn i ogledd Cymru, a bu'n byw ym Mhenmaenmawr ac yn gweithio i Rwydwaith Cydraddoldeb Hil Cymru. Cyhoeddwyd ei hunangofiant White Master’s Child - Buckra Massa Pickney mewn Siamaiceg yn 2006.

Bu farw Enrico Stennett ar 7 Gorffennaf 2011, ac fe'i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanrhos ger Llandudno. Ar ei garreg fedd ceir y geiriau 'Fighter for world freedom, justice, equality & peace'.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tribute to Enrico Stennett - Itzcarribbean". Cyrchwyd Gorffennaf 23, 2020.
  2. "Veteran Enemy of Racism tells his Story - Daily Post". Cyrchwyd Gorffennaf 23, 2020.
  3. "Brilliant, Black and Welsh - Wales Online". Cyrchwyd Gorffennaf 23, 2020.
  4. "'Mr Magic Feet' ar wefan BFI". Cyrchwyd Gorffennaf 23, 2020.
  5. "Gwefan deyrnged Enrico Stennett". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-23. Cyrchwyd Gorffennaf 23, 2020.