Gweler hefyd: Envoi (cylchgrawn).

Pennill byr ar ddiwedd cerdd yw envoi, a ddefnyddir i gyfarch person go iawn neu person a ddychmygir, neu i sylwebu ar y gerdd ei hun. Mae gan yr envoi lai o linellau na gweddill penillion y gerdd fel rheol, ac mae'r llinellau hynny yn ail-adrodd odlau neu seiniau a glywir yng ngweddill y gerdd.

Ymddangosodd yr envoi gyntaf yng ngwaith y trouvères a'r troubadours canoloesol, gan ddatblygu fel cyfarchion i gyfeillion neu noddwyr y bardd. Gellir felly cysidro'r envoi fel rhywbeth sy'n sefyll ar wahân i'r gerdd ei hun, fel rhywbeth sy'n mynegu gobaith y bardd y bydd y gerdd yn dod â budd o rhyw fath iddo.

Tueddodd barddoniaeth Ffrangeg i symud o gyfrwng y gân tuag at lên yn ystod y 14g. Y prif ffurfiau a defnyddiwyd yn eu barddoniaeth lenyddol oedd y ballade, a ddefnyddiai byrdwn gyntaf ond a esblygodd i gynnwys envoi, a'r chant royal a defnyddiai envoi o'r cychwyn.

Prif ddehonglwyr y ffurfiau hyn oedd Christine de Pizan a Charles d'Orléans.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.