Gwyddonydd gwleidyddol ac athronydd Almaenig-Americanaidd ac ysgolhaig rhyngddisgyblaethol oedd Eric Voegelin (3 Ionawr 190119 Ionawr 1985) sydd yn nodedig am ei astudiaethau o wleidyddeg fodern yn ogystal â'i ymdrechion i lunio athroniaeth gynhwysfawr o'r ddynolryw, cymdeithas, ac hanes.

Eric Voegelin
GanwydErich Hermann Wilhelm Vögelin Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1901 Edit this on Wikidata
Cwlen Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 1985 Edit this on Wikidata
Palo Alto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd gwleidyddol, athronydd, academydd, hanesydd, cymdeithasegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef yng Nghwlen, Ymerodraeth yr Almaen. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna ym 1922, ac yno addysgodd y gyfraith o 1929 i 1938. Ffoes i'r Swistir yn sgil yr Anschluss, ac yna i Unol Daleithiau America. Fe'i derbyniwyd yn ddinesydd Americanaidd ym 1944. Treuliodd ei yrfa academaidd yn yr Unol Daleithiau yn Harvard, Coleg Bennington, Prifysgol Alabama, a Phrifysgol Daleithiol Louisiana. Dychwelodd i'r Almaen i addysgu gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol München o 1958 i 1969. Symudodd yn ôl i'r Unol Daleithiau ac ymsefydlodd yn Stanford, Califfornia, i weithio yn uwch-gymrawd ymchwil yn Sefydliad Rhyfel, Chwyldro, ac Heddwch Hoover. Bu farw yn Stanford yn 84 oed.[1]

Syniadaeth golygu

Ar sail ei ddealltwriaeth o hanes athroniaeth wleidyddol—yn enwedig ysgrifeniadau Platon ac Aristoteles a ddylanwadwyd yn gryf arno—aeth Voegelin i'r afael ag athroniaeth hanes yn ei ymdrech i amgyffred natur y drefn wleidyddol a'i pherthynas â chyflwr y ddynolryw. Archwiliodd Voegelin sefydliadau gwleidyddol, symbolau ieithyddol, a syniadau hanesyddol a modern ynglŷn â gwareiddiad at ddiben dehongli'r arwyddion a mythau sydd yn rheoli'r gymdeithas wleidyddol, a chyda'r sylfaen honno fe geisiodd lunio athroniaeth o ymwybyddiaeth.

Un o themâu canolog ei waith yw ei feirniadaeth ar fodernedd. Dadleuai taw argyfwng yn yr ymwybyddiaeth ddynol oedd modernedd, o ganlyniad i golli sylw o drosgynoldeb y ddirwedd a chanolbwyntio'n ormod ar fateroliaeth a chynnydd technolegol. Yn ôl Voegelin, arweiniodd y trawsnewidiad syfrdanol hwn at hollti'r ymwybyddiaeth ddynol, gan achosi pobl i golli perthynas â'r realiti ysbrydol wrth wraidd bodolaeth.

Llyfryddiaeth golygu

  • Der Autoritäre Staat (1936).
  • The New Science of Politics (1952).
  • Order and History, 4 cyfrol (1956–74).
  • Science, Politics and Gnosticism (1959).
  • From Enlightenment to Revolution (1975).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Eric Voegelin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ebrill 2023.