Bardd, cyfieithydd, a beirniad llenyddol Ciwbaidd a aned yn Sbaen oedd Eugenio Florit (15 Hydref 190322 Mehefin 1999) sy'n nodedig am ei delynegion. Cyhoeddodd 34 o gyfrolau o farddoniaeth yn ystod ei oes.

Eugenio Florit
GanwydEugenio Florit y Sánchez de Fuentes Edit this on Wikidata
15 Hydref 1903 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1999 Edit this on Wikidata
Miami Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Madrid, Teyrnas Sbaen. Symudodd i Giwba yn 14 oed. Astudiodd am radd yn y gyfraith ym Mhrifysgol La Habana. Roedd yn gysylltiedig â Revista de Avance. Symudodd i Ddinas Efrog Newydd yn 1940, a chafodd swydd yn y gonswliaeth Giwbaidd. Ysgrifennodd ar gyfer y cylchgrawn Ciwbaidd Orígenes, ac yn Efrog Newydd cyd-olygodd Revista hispánica moderna gyda Federico de Onís ac Angel del Río.[1] Dechreuodd weithio yng Ngholeg Barnard yn 1944, a bu'n addysgu llenyddiaeth Sbaeneg ac America Ladin nes iddo ymddeol yn 1969. Fe'i penodwyd yn athro emeritws ar bwnc llên America Ladin. Bu farw yn ei gartref ym Miami yn 95 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Wilfredo Cancio Isla, "Florit, Eugenio" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 210.
  2. (Saesneg) "Eugenio Florit, Poet and Critic, 95", The New York Times (6 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 17 Medi 2019.

Darllen pellach golygu

  • J. O. Jiménez, "Introducción a la poesía de Eugenio Florit", Círculo 8 (1979), tt. 7–26.
  • A. R. Nuñes, "Eugenio Florit: Retrato de un poeta", Círculo 20 (1991), tt. 7–23.
  • O. Saa, "Eugenio Florit: Poeta de la ecuanimidad", Círculo 29 (2000), tt. 126–34.