Fannie Margaret Thomas

ymgyrchydd dros y bleidlais i fenywod

Roedd Fannie Margaret Thomas (18681953)[1] yn athrawes ac ymgyrchydd dros y bleidlais i fenywod.[2] Buodd hi'n bennaeth ysgol gynradd ym Mhontycymer, ac wedyn yn bennaeth Ysgol Ffaldau. Ni allai dorri'r gyfraith fel y gwnaeth y swffragetiaid, oherwydd byddai wedi colli ei swydd. Sefydlodd hi gangen Cwm Ogwr y CSU.[3]

Cafodd ei geni yn Nolgellau, yn ferch i weithiwr banc. Roedd ei mam yn rhedeg tafarn yn y Bont-faen. Safodd fel ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw yn 1919 ac yn ddiweddarach daeth yn arweinydd y cyngor.[1][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Fannie Thomas". Women, Wales and War (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Mawrth 2023.
  2. Ryland Wallace (2018). The Women's Suffrage Movement in Wales, 1866-1928 (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 9781786833297.
  3. Angela V John (2019). Rocking the Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990 (yn Saesneg). Parthian Books. ISBN 9781912109227.
  4. Ryland Wallace :‘A doughty warrior in the women’s cause’. Llafur 2018 volume 12 number 3 (Saesneg)
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.