Ffion Mair Jones

llenor

Ymchwilydd ac awdur yw Ffion Mair Jones.[1]

Ffion Mair Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cymrodor ymchwil Edit this on Wikidata
Blodeuodd1950 Edit this on Wikidata

Mae'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ei chyhoeddiadau'n cynnwys Welsh Ballads of the French Revolution 1793-1815 a golygiad o anterliwt Huw Morys, Y Rhyfel Cartrefol.

Mae ei diddordebau’n cynnwys gohebiaethau Cymraeg a Chymreig yn y ddeunawfed ganrif ynghyd â genres poblogaidd y faled a’r anterliwt. Yng nghyswllt y ddau genre olaf, canolbwyntiodd ar ddeunydd hanesyddol sy’n ymdrin â Rhyfeloedd Cartref Prydain yn yr 17g a’r Chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig, ac ar ddeunydd cronicl megis hanes y Brenin Llŷr.

Cyhoeddwyd y gyfrol Cymru a'r Chwyldro Ffrengig: Y Chwyldro Ffrengig a'r Anterliwt gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2014.

Cyfeiriadau golygu

  1. "www.gwales.com - 708326498". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Ffion Mair Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.